Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Ynni Pren

Croeso i hafan Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer Ynni Pren.

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cefnogi datblygu Ynni Pren – ffynhonnell lân, effeithiol ac adnewyddadwy ar gyfer ynni.

Mae Llywodraeth y DG wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy gael 80% yn llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr nag yn 1990 erbyn 2050. Yn 2008, cytunodd y Llywodraeth i dderbyn targedau Ewropeaidd i gynhyrchu 15% o’r holl ynni a gynhyrchir yn y DG o ffynonellau adnewyddadwy, ac argymhellodd y strategaeth ddiweddar ynglŷn ag Ynni Adnewyddadwy y dylai 30% o’r ynni adnewyddadwy hwnnw ddod o fio-ynni. Mae tanwydd pren yn ffynhonnell gynaliadwy o fio-ynni, sy’n cynnwys ond ychydig o garbon ac a all wneud cyfraniad pwysig o ran cyrraedd y targedau hyn. I gael rhagor o wybodaeth am ynni adnewyddadwy a pholisi newid yn yr hinsawdd yn y DG, ewch i wefan yr Adran Ynni a Hinsawdd.

Oddi mewn i’r Comisiwn Coedwigaeth, mae Cymru, Lloegr a'r Alban yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus i helpu i ddiwallu'r targedau bio-ynni hyn ar gyfer y DG.

Manteision Ynni Pren

Manteision Ynni Pren

Mae rheoli coetiroedd yn golygu bod mwy o olau’n cyrraedd llawr y goedwig, ac mae hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y blodau, pryfed ac anifeiliaid, yn ogystal â gwella ansawdd a gwerth y pren y gellid ei ddefnyddio. Byddai rheoli rhagor o goetiroedd Cymru yn helpu i gynnal bywyd gwyllt yn un o’n cynefinoedd cyfoethocaf. Dangosodd ymchwil a gyhoeddwyd y llynedd sut mae fflora ac adar y goedwig yn dioddef oherwydd diffyg rheoli coetiroedd mewn llawer o’n coedydd brodorol, a chafwyd dirywiad sydyn yn niferoedd llawer o loÿnnod byw. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ynglŷn â bioamrywiaeth coetir a rheoli coedwigoedd trwy ddulliau cynaliadwy, ewch i’n tudalennau gwe ar fanteision rheoli coetiroedd.

Felly, mae defnyddio pren o goedydd sy’n cael eu rheoli’n dda yn rhoi ffynhonnell adnewyddadwy o danwydd a chynhyrchion eraill yn ogystal â rhoi cymhelliad i berchnogion coetiroedd reoli eu tir yn gynhyrchiol, gan wella’r amodau i fywyd gwyllt ac amwynderau.

Er bod carbon deuocsid yn cael ei ryddhau wrth losgi pren, mae hyn yn cael ei gydbwyso gan y carbon deuocsid a gafodd ei amsugno pan oedd y coed yn tyfu’n wreiddiol a phan fydd coed newydd yn tyfu. Mae modd ei ystyried yn fath o ynni’r haul sy’n cael ei ddal gan goed wrth iddyn nhw dyfu.

Mae ymchwil a datblygu wedi adeiladu ar yr hanes hir o ddefnyddio pren yn ynni, ac mae bwyleri tanwydd pren glân ac effeithlon, sy’n llosgi naill ai naddion neu belenni pren, yn mynd yn fwy poblogaidd yn y DG. Mae’r rhain yn hawdd eu defnyddio ac yn effeithlon – ac yn rhoi marchnad ar gyfer adnodd adnewyddadwy lleol.

Er eu bod yn ddrutach i’w prynu, gall y gost o redeg bwyler tanwydd pren fod yn rhatach nag ar gyfer bwyler olew. Mae tanwydd pren yn gweithio orau ar raddfa leol – pan fo coed lleol yn cael eu defnyddio mewn bwyleri effeithlon i ddarparu gwres at ddefnydd busnes a chymuned, mae yna lai o gostau cludo a llai o allyriadau.

Y Ganolfan Ynni Biomas

Os ydych chi’n fusnes bach sydd am ddysgu mwy am osod bwyler tanwydd pren, ynteu’n berchennog coetir sydd â diddordeb yn y cyfleoedd a ddaw yn sgil tanwydd pren, gallwch gael hyd i gyfoeth o wybodaeth ar wefan y Ganolfan Ynni Biomas, lle gallwch hefyd ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymholiadau Gwybodaeth.

www.biomassenergycentre.org.uk

Safleoedd defnyddiol