Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Coedwig Gwyllt - Talybont
 

Powys
Cymru
Tal-y-Bont yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SO 056178
Saif Coedwig Talybont ar lethrau Glyn Collwn a Chronfa Dŵr Tal-y-bont. Mae Rhaeadrau Blaen-y-glyn yn rhan uchaf y goedwig. Ar ddiwedd y 19eg Ganrif roedd o leiaf 10 o ffermydd yn y cwm. Saif caeau bychain yn eu welydd cerrig o gwmpas pob ffermdy, a chafwyd pren am adeiladau a thanau o’r coetir gerllaw. Yn ystod y 19eg Ganrif cludwyd y calch a gafwyd o’r chwareli ar hyd tramffordd Bryn Oer a Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful i gymoedd De Cymru. Mae hen hynt y rheilffordd bellach yn rhan o Lwybr Taf ac mae llwybr cerdded yn rhedeg o hyd iddo.

Mamaliaid: Moch daear, Dyfrgwn, Llygod y Dwr, Ffwlbartiaid, Ysgyfarnogod, Llwynogod, Ystlumod (nifer o rywogaethau o ystlumod). Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear, Dyfrgi

Adar: Y Gwalch Glas, yr Hebog, y Gwyddwalch, y Boda, y Cudyll Bach, y Cudyll Coch,
y Gigfran, Gwalch y Pysgod (ymwelydd gaeaf), yr Hudwalch, y Gylfinir, y Cyffylog, y Troellwr, y Gog, y Dylluan Wen, y Dylluan Fach, Cnocell y Coed (y tri math), yr Eurben, Teloriaid, Mwyalchen y Mynydd. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr, Gwalch y pysgod

Pryfed ac ymlusgiaid: Neidr y Ddafad, y Neidr Lwyd, nifer o rywogaethau’r pili-pala/Iār Fach yr Haf, Morgrug Cochion y Coed.

Cynefinoedd: Glannau Nant ac Afon, Coniffer Coetir, Coetir Cymysg, Rhodfeydd,
Nentydd, Min y Rhos, Pyllau Dwr.

Sut i gyrraedd:
Trowch oddi ar yr A40 yn dilyn yr arwyddion am Dal-y-Bont rhwng Aberhonddu a Bwlch. Wedi cyrraedd Tal-y-Bont dilynwch yr arwyddion am gronfa ddwr Tal-y-Bont trwy bentref Aberclydach, gan barhau nes gweld arwyddion y Comisiwn Coedwigaeth.

Edrychwch ar y map (Multimap)
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)


Cyfleusterau:
Symbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allwedd

   

Mannau eraill i fynd yn eich ardal
Coedwigoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Crychan
Caio

Cyswllt:



Beth sydd o ddiddordeb
Mae’r newid o rostir trwy goedwigaeth i ddŵr agored yn cynnig cynefinoedd am amrywiaeth o rywogaethau. Mae llawer o’r rhain i’w gweld wrth gerdded trwy’r coedwigoedd neu ar draws y t ir uchel. Mae cuddfan gwylio adar (SO 098178) ar gael hefyd. Mae’n hawdd ei chyrraedd o’r briffordd yn edrych ar draws y Gronfa ddŵr.

Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov