|
|
Coedwig Gwyllt - Maesyfed Radnor
Powys
Cymru
Presteigne yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SO 213609
Mae Fforest Maesyfed yn ardal o goetir cymysg o dua 1800ha yn codi i uchder o bron 2000 o droedfeddi. Mae’r coetir yn cynnwys mathau amrywiol o goed o blanhigfeydd o sbriwswydd ar yr tir uchel i Larwydd, Ffynidwydd Douglas a choed llydanddail mewn mannau ar y llethrau mwy cysgodol. Bu Fforest Maesyfed ar un adeg yn helfa frenhinol - dyma’r fan uchaf ganolog Gororau Maesyfed. Dywedir mai y fan uchaf agosaf i’r dwyrain o uchafbwynt Fforest Maesyfed Black Mixen Hill yw Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia!
Mamaliaid: Mae’r coetir amrywiol hwn yn cynnig y cynefin delfrydol am nifer o famaliaid y coetir. Cewch weld llwynogod, moch daear, cwningod, sgwarnogod ac iyrchod yn yr ardal. Mae sgwarnogod yn fwy o faint na’u perthnasau, y cwningod, ac mae ganddynt glustiau a choesau ôl hirach. Maent yn felynllwyd gyda chymysgedd o flew llwyd a melynllwyd ar rannau uchaf eu cyrff. Maent yn bwydo yn ystod oriau gwyll ar laswellt, gwreiddiau a rhisgl. Mamaliaid y coetir yw llwynogod. Ystyrir bod y cadno yn anifail unig a fydd ond yn chwilio am gymar am epilo yng nghanol y gaeaf. Ym mis Ebrill genir tri i chwe chenau. Bydd y tad yn chwarae gyda’i epil a phan fyddant tua mis oed, byddant yn mynd i hela gyda’r fam. Byddant yn dysgu sgiliau hela’n gyflym ac yn ddeufis oed byddant yn barod i adael y wâl. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Mochyn daear
Adar: Pan yn ymweld â’r coed mae’n bosibl gweld amrywiaeth eang o adar. Y boncath yw’r aderyn ysglyfaethus cyffredin mwyaf ei faint ym Mhrydain, ac maent yn gyffredin ar fryniau’r gorllewin. Yn aml cewch weld hanner dwsin ohonynt yn hedfan uwchben a chyda’u hadenydd llydan gallant edrych yn debyg i wyfynod anferth. Mae eu galwadau yn debyg i fewian cath, ac felly’r enw. Os yn lwcus byddwch yn gweld gwyddwalch yn rhuthro trwy’r coed yn hela ei ysglyfaeth. Mae’r gwyddwalch yn bwyta gwiwerod, cwningod ac adar, yn enwedig ysguthanod a brain. Bydd y gwyddwalch yn gwneud ei nyth mewn ffynidwydden, gan ychwanegu ato bob blwyddyn. Bydd yr iâr yn dodwy rhwng 3 a 5 ŵy llwydlas, weithau gyda smotiau dugoch. Mae cudwalch yr ieir yn bresennol hefyd. Dyma’r unig adar ysglyfaethus sydd wedi cynyddu’n sylweddol mewn niferoedd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ceiliog yn aderyn hardd, llwydlas a phan yn ei lawn dwf bydd yn cyrreadd rhwng 44 a 52 cm. Mae’r iâr gyda’i thin wen yn hawdd ei hadnabod. Maent yn ymddangos yn ehedwyr hamddenol ond pan fyddant yn mynd ar ôl eu hysglyfaeth maent yn gallu fod yn drefnus iawn yn eu dulliau. Byddant yn ymosod yn annisgwyl ar eu hysglyfaeth ac yn gafael ynddynt gyda’u coesau hirion. Byddant yn gwledda ar adar, brogaod a nadredd. Bydd cudwalch yr ieir yn nythu ar rostir agored. Mae’r nythod wedi eu cuddio’n dda, a bydd yr iair yn dodwy 4 neu 5 ŵy rhwng Ebrill a Mehefin. Yn ystod y tymor bridio bydd y ceiliog yn gwneud y rhan fwyaf o’r hela gan ddod â bwyd yn agos i’r nyth. Yna bydd yr iâr yn codi o’r nyth ac yn cymryd yr ysglyfaeth o grafangau’i chymar yn yr awyr, gan hedfan wyneb i waered i wneud hynny.
Pryfed ac ymlusgiaid: Mae llau’r dail i’w gweld yn sugno sudd o flaguron ifanc llwyn mwyar. Ymhlith creaduriaid eraill y coetir sydd yn bwydo ar lwyni mwyar y mae’r wlithen llychlyd melynaidd ac amrywiaeth o falwod gan gynnwys y falwen fandiog llwydgorff. Ym misoedd hwyr yr haf daw cacynen y feirch i lwyn y mwyar i fwydo ar y siwgr yn y ffrwythau. Byddant yn cnoi trwy groen y ffrwythau unigol i gyrraedd y cig suddlon y tu mewn. Unwaith y byddant wedi treiddio trwy’r croen bydd trychfilod eraill yn dechrau heidio at y ffrwythau. Daw y pryfed gwyrddion a’r cnawdglêr llygatcoch hefyd, a byddant yn bwydo trwy lafoerio drefl ar y ffrwyth sydd yn treulio’r cnawd yn rhannol y gallant eu sugno i fyny ar ffurf sudd. Cynefinoedd: Mae Fforest Maesyfed yn cynnig cynefinoedd conifferau a choed llydanddail. Ar dir uchaf y bryniau mae rhostiroedd yr ucheldir wedi datblygu ac maent yn cynnig cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt a nythfannau ar gyfer adar y rhostir.
Sut i gyrraedd: Mae coedwig Maesyfed rhwng yr A488 a'r A44.
Edrychwch ar y map (Multimap) Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Lleoedd i fynd:Maesyfed Radnor
Coedwig Burfa Coedwig Warren Coedwig Nash Coedwig Smatcher Cwm Broadwell
Cyfleusterau:
 Gweithgareddau:
 
Mannau eraill i fynd yn eich ardal Ceri Clwyd Coed Sarnau Coedwig Hafren Dyfnant Hiraethog Mathrafal
Cyswllt:
|
Beth sydd o ddiddordeb
Mae’r fwyalchen yn ychwanegu at eu maeth trwy fwyta mwyar duon ac yna maent i’w gweld yn sychu eu pigau ar y dail gerllaw er mwyn gwaredu’r hadau, sef poeri’r hadau.
Beth i'm weld nawr Y tarianbryf yw un o’r nifer fach iawn o drychfilod sydd yn gofalu am ei epil. Yn ystod misoedd yr haf mae’r fam i’w gweld ar ddeilen gyda’i deoriad o 30 i 40 o rai bach. Unwaith y caiff ei dychryn, bydd hi’n eu corlannu’n ddiogel o dan y ddeilen ac yn aros ar frig y ddeilen fel gwrthddeniad.
Oeddech chi'n gwybod Mae lliwiau carth moch daear yn amrywio yn ôl y math o fwyd sydd ar gael: maent yn llwydgoch os buont yn bwyta mwydon, melyn am ŷd a phorffor ar ôl iddynt wledda ar ffrwythau!
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |