|
|
Coedwig Gwyllt - Dyfnant
Powys
Cymru
Llangadfan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ033155
Coedwig anghysbell yw Dyfnant, sydd wedi’i lleoli ar dir uchel rhwng dyffryn Afon Twrch i’r gorllewin ac Afon Efyrnwy i’r dwyrain.
Mamaliaid: I lawr Afon Efyrnwy, o Bont Llogel, mae ardal goediog sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), ac sy’n gartref i nifer o blanhigion prin a gysylltir â daeareg yr ardal. Mae dyfrgwn yn defnyddio’r afon. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear, Dyfrgi
Adar: Ar ochr ddwyreiniol Y Berwyn, ceir nifer o adar yr ucheldir ac adar y goedwig, gan gynnwys Corhedydd y Waun (Meadow Pipit) a Chorhedydd y Coed (Wood Pipit), y Gylfingroes (Crossbill), y Pila Gwyrdd (Siskin), y Troellwr Mawr (Nightjar), a’r Rugiar Ddu liwgar y gellir ei gweld yn aml yn bwydo mewn llennyrch yn y coed ac ar gyrion y weundir. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr, Grugiar ddu
Sut i gyrraedd: B4395 i'r gogledd oddi ar yr A458.
Edrychwch ar y map (Multimap) Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Lleoedd i fynd:Dyfnant
Dyfnant Pont Llogel
Cyfleusterau:
  Gweithgareddau:
  
 |
Mae Dyfnant yn gartre i Deithiau'r Enfys sef bump o lwybrau i farchogwyr o bob gallu, yn amrywio o'r llwybr nofis, y Trot Banw (5 milltir) at y llwybr i farchogwyr mwy profiadol sef Cerrig yr Helfa. Ceir golygfeydd bendigedig mewn amgylchedd tawel ar bob un o'r llwybrau. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Mannau eraill i fynd yn eich ardal Ceri Clwyd Coed Sarnau Coedwig Hafren Hiraethog Maesyfed Radnor Mathrafal
Cyswllt:
Mike Whitley Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: mike.whitley@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Mae nifer o Henebion Rhestredig yn Nyfnant, gan gynnwys rhes o gerrig cynhanesiol. Mae’r meini hirion hyn wedi’u gosod mewn rhes yn hytrach nag ar ffurf cylch fel sy’n fwyaf cyffredin.
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |