|
|
Coedwig Gwyllt - Dyfi
Gwynedd
Cymru
Machynlleth yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH750046
Mae coedwig Dyfi i’r dwyrain a’r de-ddwyrain o Gadair Idris, yng nghanol cymunedau Machynlleth, Corris, Ceinws, Dinas Mawddwy, Pennal ac Aberangell. Mae cymysgedd o gynefinoedd a rhywogaethau yn y goedwig. Ceir chwareli llechi a mwyngloddfeydd segur drwy’r goedwig o ganlyniad i’r gweithgarwch hanesyddol hwn. Mae llawer o’r hen adeiladweithiau, lefelau a thyllau hyn yn bwysig fel cynefinoedd i rywogaethau prin o blanhigion ac fel mannau clwydo a gaeafu i ystlumod. Ceir rhywogaethau a chynefinoedd prin a chyffredin yng nghoedwig Dyfi. Yr amrywiaeth hon sy’n gwneud y goedwig yn lle mor ddelfrydol i ymweld ag ef.
Mamaliaid: Ceir ychydig o geirw yma. Hydd brith yw’r rhan fwyaf ohonynt ac mae ambell iwrch hefyd. Mae’r pathew yn rhywogaeth allweddol. Mae pathewod bron yn amhosibl i’w gweld gan mai creaduriaid y nos ydynt. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Hydd brith
Adar: Mae’n bosibl y gwelwch y RUGIAR DDU ar ymylon y goedwig lle mae’r gweundir yn cwrdd ā’r coed. Mae’n hawdd adnabod y ceiliogod: mae ganddynt blu du nodedig a chynffon amlwg, ar siāp telyn, wrth hedfan. Ond mae’n hawdd drysu rhwng yr iār a’r RUGIAR GOCH sydd hefyd yn byw ar ymylon y coed. Gallech hefyd weld FWNCATH neu FARCUD ond byddech yn lwcus iawn i weld GWALCH MARTHIN. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch
Cynefinoedd: Mae nifer o goetiroedd llydanddail gogoneddus ar hyd y prif ffyrdd sy’n amgylchynu coedwig Dyfi. Coetiroedd derw uwchdirol yw’r rhan fwyaf o’r rhain ac maent hwy’n gartref i rai o gennau a bryoffytau prinnaf Prydain. Mae’r coetiroedd hyn yn rhedeg ar hyd arfordiroedd gorllewinol Prydain ac maent hwy’n goroesi oherwydd y gaeafau gwlyb mwyn. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mynydd-dir coed derw
Sut i gyrraedd: A487 i'r Gogledd o Fachynlleth.
Edrychwch ar y map (Multimap) Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Cyfleusterau:
    Gweithgareddau:
    
 |
Mynediad agored, Llwybrau wedi eu marcio a milltiroedd o hawliau tramwy. |
|
 |
Mynediad agored ar ffyrdd Coedwigo a Llwybrau Marchog. |
 |
Mynediad agored ar ffyrdd Coedwigo a Llwybrau Marchog. Mynediad Agored drwy Bantperthog, Abergynolwyn, Cwm Dulas:Pacio ar gael yn Nhan y Coed lle mae yna lwybrau cerdded cyfeiriedig |
|
|
|
Mannau eraill i fynd yn eich ardal Penllyn Gwydyr Hafod Y Bwa Coed Maenarthur Coed y Brenin Nant yr Arian Y Gelli Ddu Niwbwrch
Cyswllt:
Dave Farmery Local Area Manager 01341 422289 e-bost: dave.farmery@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Gan fod ystlumod yn amddiffynedig mae’n bwysig peidio a’u aflonyddu yn ystod eu gaeafgwsg. Mae grwpiau lleol sy’n ymddiddori mewn ystlumod yn trefnu teithiau tywys i gyflwyno’r cyhoedd i ymddygiad ac arferion bwydo ystlumod megis yr ystlum lleiaf, yr ystlum hirglust, yr ystlum mawr a’r ystlum barfog. Cysylltwch a Grŵp Ystlumod Gwynedd ar (01766) 762437. DS Mae hen weithfeydd chwareli yn medru bod yn peryglus dros ben ac mae’n bwysig i gadw i ffwrdd o safleoedd felly.
Beth arall sydd yma
Safleoedd defnyddiol
Am fwy o wybodaeth
|
 |