|
|
Coedwig Gwyllt - Moel Famau Clwyd
Sir Ddinbych
Cymru
Yr Wyddgrug yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ172611
Mae Coedwig Moel Famau yng ngogledd-orllewin Cymru, ym Mryniau Clwyd. Mae llwybr troed Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd ei ffin ac mae Parc Gwledig Tafarn y Celyn (Loggerheads) gerllaw. Cyfeiriwyd at goedwig Moel Famau fel y porth i Gymru wledig. Mae’n gorchuddio 597 hectar o dir, ac mae ganddi amrywiaeth gymharol eang o rywogaethau. Mae o fewn cyrraedd i Lerpwl, Caer a Wrecsam, a gellir gweld y mannau hyn o’r copa.
Adar: Gellir gweld Cigfrain yn yr awyr yn mynd drwy eu campau yn ystod y tymor bridio. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Grugiar ddu
Cynefinoedd: Mae coetiroedd Moel Famau wedi’u lleoli ar lethrau Moel Famau a Foel Fenlli ar ochr ddwyreiniol Bryniau Clwyd. Mae’r ardal hon yn cynnwys tirwedd amrywiol, yn weundir, ffriddoedd a choedwigoedd, a cheir yma sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys y Rugiar Ddu, adar ysglyfaethus ac adar bach.
Sut i gyrraedd: Cymerwch yr A494 o’r Wyddgrug. Dilynwch y ffordd hon drwy drefi Gwernymynydd a Thafarn y Celyn (Loggerheads) nes dod at gyffordd gydag arwydd ‘Parc Gwledig Moel Famau’ i’r dde. Dilynwch y ffordd hon am milltir, ac fe welwch y maes parcio ar y dde.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Gweithgareddau:

 |
Mynediad agored i farchogwyr |
|
|
|
|
|
|
|
|
Clwyd Nercwys Llangwyfan
Cyswllt: Steve Crosby Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth arall sydd yma
Tudalennau cysylltiedig
Am fwy o wybodaeth
|
 |
 |