|
|
Coedwig Gwyllt - Llangwyfan Clwyd
Sir Ddinbych
Cymru
Llangwyfan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ138667
Mae’r coetir 85 hectar hwn yn codi’n serth o’r nant yn y gwaelod i gopa Bryniau Clwyd ger Penycloddiau. Buwyd yn torri coed mewn rhannau helaeth o’r coetir, a bellach ceir golygfeydd eang ar draws Dyffryn Clwyd tuag at Ddinbych.
Adar: Mae Coedwig Llangwyfan wedi’i lleoli ar lethrau’r dyffryn, islaw llwybr Clawdd Offa sy’n rhedeg ar hyd rhan o Fryniau Clwyd. Mae’n gartref i’r tair Cnocell y Coed a geir ym Mhrydain; y mwyaf lliwgar ohonynt yw’r Gnocell Werdd. Ar ffyrdd uchaf y goedwig, ar y rhostir agored, gellir gweld Crec yr Eithin (Whinchat) a Chlochdar y Cerrig (Stonechat) yn gymysg â Chorhedyddion y Waun (Meadow Pipits).
Sut i gyrraedd: O gylchfan y de Dinbych ar yr A525, dilynwch yr arwydd ffordd i gyfeiriad Llandyrnog. Ewch yn syth ar draws y gylchfan nesaf a’r B5429, yna trowch i’r chwith yn y gyffordd nesaf, a dilynwch y ffordd hon i ben y bryn.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Gweithgareddau:
 
 |
Mynediad agored i farchogwyr. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Clwyd Nercwys Moel Famau
Cyswllt: Steve Crosby Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |
 |