Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  

 


Coedwig Gwyllt - Gwydyr
 

Conwy
Cymru
Betws-Y-Coed yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH794611
CWM LLEDR O'R A5 I'R DDE O FETWS-Y-COEDMae coedwig Gwydyr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Ceir yma gymysgedd o gynefinoedd a rhywogaethau ac mae’n lle ardderchog i wylio bywyd gwyllt gan fod cymaint i’w weld a’i wneud. Cewch fwynhau llynnoedd uwchdirol, afonydd mawr, coetiroedd derw uwchdirol, coed conifferaidd mawr a lleoedd agored, sydd i gyd yn darparu cynefin amrywiol i adar, mamolion a phlanhigion o bob math.

Mamaliaid: Mae’n bosibl y gwelwch hydd brith neu, ambell waith, iyrchod yn y goedwig adeg toriad gwawr neu fachlud haul. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Hydd brith

Adar: Mae’r Rugiar Ddu yn byw yn y goedwig ddeheuol ac yng nghoetiroedd Tyn y Cwm. Y rhain yw rhannau mwyaf newydd y goedwig lle mae gweundir yn cwrdd â choed, gan greu hoff gynefin y grugieir. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Grugiar ddu

Pryfed ac ymlusgiaid: Ceir ieir bach yr haf a gwyfynod yn y llecynnau agored yn y goedwig. Rhai o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yw’r glesyn cyffredin, brith perladeiniog bach, brith gwyrdd, gweundir bach, peunog, mantell goch, brith y coed, llwyd y ddôl, iâr fach y glaw, melyn y rhafnwydd, gwibiwr mawr, gwibiwr bach, iâr fach amryliw, brithribin porffor. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Glöyn ffridd fawr, Brith arianresog

Cynefinoedd: Mae coedwig Gwydyr yn enwog am ei ffynidwydd Douglas a’i sbriws Norwy mawr, y mae rhai ohonynt dros 180 oed. Ceir rhai o goetiroedd derw uwchdirol hynafol pwysicaf Cymru yn yr ardaloedd hyn. Oherwydd y cymysgedd o rywogaethau yn y goedwig, gwelir amrywiaeth o liwiau drwy gydol y tymhorau, yn enwedig yn yr Hydref wrth i liw y dail ddechrau troi.
Mae llawer rhan o’r goedwig yn bwysig am ei gennau. Ceir y boblogaeth fwyaf o un rhywogaeth o’r fath yn y goedwig hon, dros arwynebedd o oddeutu 30 hectar. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mynydd-dir coed derw

Sut i gyrraedd:
Ffordd fach i'r Dwyrain oddi ar yr A470 yn Llanrwst.
Gwahanol fynedfeydd o'r A5 rhwng Capel Curig a Betws-y-Coed.

Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)

Mynediad trwy
Gwydyr Uchaf
Llyn Crafnant
Bryn Engan
Pentre Du
Eglwys Fair
Modurdy Betws y Coed
Cae'n y Coed
Bwthyn Nant
Llyn Geirionydd
Ty'n Llwyn
Llyn y Sarnau
Pont y Pair


Cyfleusterau:
Symbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allwedd

Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad Agored – Coedwig Beddgelert; Coedwig Gwydyr ar wahan i:Coed Celyn, Soflen, Moel y Ci & Braichmelyn:SYLWER OS GWELWCH YN DDA FOD YNA DDEFNYDD MAWR O FEICIAU MYNYDD YNG NGOGLEDD GWYDYR:Hefyd Mynediad Agored drwy De Gwydyr a Hafod Fawr, ond nid oes yna ddarpariaeth parcio. Y lleoedd orau ar gyfer dadlwytho yw Gwydyr Uchaf, Cae’n y Coed, Sarnau, Hafna, Pont Cae Groes a Beddgelert. Am ragor o wybodaeth am farchogaeth yn yr ardal yma gwelwch y ddoleni o dan tudalennau cysylltiedig ar y dde

   



Cyswllt:



Beth sydd o ddiddordeb
Mae yna nifer o feysydd parcio wedi eu arwyddo sy'n arwain at lawer o llwybrau gwahanol. Mae tref Betws Y Coed yn ganolog i bopeth sydd gan Gwydyr i gynnig a mae llawer o'r llwybrau yn arwain i'r goedwig yn syth o'r dre.

Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov