Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Coedwig Gwyllt - Ceri
 

Conwy
Cymru
Ceri yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SO165866
Coedwig o goed conifferaidd cymysg yw Coedwig Ceri, sydd y naill ochr a’r llall i Gefnffordd Ceri yn uwchdiroedd Maldwyn. Mae Cefnffordd Ceri, sef llwybr troed rhanbarthol hirbell, yn rhedeg o’r Drenewydd ym Mhowys i Drefesgob (Bishop’s Castle) yn swydd Amwythig, drwy Goedwig Ceri.

Mamaliaid: Cewch gweld llawer o'r mamaliaid cyffredin fel Llwynogod, Ysgyfarnogod a Chwningod gydag ambell Fochyn ddaear neu Iwrch. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Mochyn daear

Adar: O Goedwig Ceri cewch weld tirwedd gororau Powys a swydd Amwythig, lle bydd Cigfrain yn mynd drwy eu campau yn yr awyr yn ystod y tymor bridio.
Mae’r ardal hon yn gynefin gwych i’r Bwncath, ac yn lle da i weld adar ysglyfaethus eraill yn gleidio yn y thermalau cynnes.

Sut i gyrraedd:
O ffordd y Trallwng - y Drenewydd (A483) ewch i’r chwith ar y gylchfan gyntaf, dilynwch yr A489 i Craven Arms. Ar ôl tua 3 milltir rydych yn cyrraedd pentref Ceri, ewch trwy’r pentref, trowch ar y dde i’r B4368. Dilynwch y ffordd am tua 3 milltir a byddwch yn mynd heibio Block Wood, parhewch ar hyd y ffordd hon tan ichi ddod i dafarn Yr Angor. Ar y groesffordd trowch i’r chwith a dilynwch y ffordd hon tan ichi ddod i’r groesffordd (tua 1.4 milltir), trowch i’r dde yma ar hyd gefnffordd Ceri ac mae’r maes parcio ar y chwith.

Edrychwch ar y map (Multimap)
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)

Lleoedd i fynd:Ceri
Sarn Hills
Block Wood


Cyfleusterau:
Symbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allwedd

Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad agored drwyddi draw

   

Mannau eraill i fynd yn eich ardal
Clwyd
Coed Sarnau
Coedwig Hafren
Dyfnant
Hiraethog
Maesyfed Radnor
Mathrafal

Cyswllt:
Nick Whythe
Rheolwr Ardal Lleol
0845 604 0845
e-bost: nick.whythe@forestry.gsi.gov.uk


Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov