|
|
Coedwig Gwyllt - Hafod
Ceredigion
Cymru
Coetir anhygoel yw ystad yr Hafod sydd wedi cael ei blannu â rhai coed a phlanhigion hynod o ddiddorol a phrin. Mae’r Barcud a’r Bwncath yn gyffredin yma a cheir llawer o rywogaethau o adar bach, megis y gwybedog brith a’r gnocell fraith fwyaf, yn y coetir derw. Mae’r goedwig gyfan yn safle PAWS (planhigfa ar safle coetir hynafol), felly mae’n cael ei rheoli i hybu tyfiant coed llydanddail drwy deneuo gofalus. Defnyddir ceffylau i wneud y rhan fwyaf o’r teneuo, a gellir eu gweld hwy wrth eu gwaith drwy gydol y flwyddyn.
Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch
Pryfed ac ymlusgiaid: Ceir ieir bach yr haf a gwyfynod yn y llecynnau agored yn y goedwig. Rhai o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yw’r glesyn cyffredin, brith perladeiniog bach, brith gwyrdd, gweundir bach, peunog, mantell goch, brith y coed, llwyd y ddôl, iâr fach y glaw, melyn y rhafnwydd, gwibiwr mawr, gwibiwr bach, iâr fach amryliw, brithribin porffor. Mae’r cae gwartheg a’r man uwchlaw swyddfa Hafod yn ddau o’r llefydd gorau i edrych am y rhywogaethau yma. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Glöyn ffridd fawr, Brith arianresog
Cyfleusterau:
  Gweithgareddau:
 
 |
Trwydded yn unig. Trwyddedau oddiwrth y Rheolwr Ardal Lleol Tony Ellis ar 01974 282540 |
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyswllt:
|
Beth sydd o ddiddordeb
Os dilynwch y ddolen isod i safle we Jonathan West fedrwch ddarllen mwy am ddefnyddio ceffylau i goedwigo a gweld lluniau o Thor, ceffyl Jonathan, yn gweithio yn Hafod.
Beth arall sydd yma
Safleoedd defnyddiol
Am fwy o wybodaeth
|
 |