|
|
Coedwig Gwyllt - Coedydd Caerffili
Caerffili
Cymru
Caerffili yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 172 863
Arloeswch y coetiroedd i ddarganfod amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt. Cewch weld y boda, y dylluan, trychfilod a hyd yn oed pathewod prin.
Mamaliaid: Dewch i chwilio am amrywiaeth helaeth o fywyd gwyllt. Mae’r Pathew swil yn byw ymysg y coed cyll yng Nghoedwig Caerffili. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld un ohonynt, neu efallai y gwelwch blisg y cnau cyll a dorrwyd ganddynt i gael y cnau.
Adar: Efallai y byddwch hefyd yn gweld Boncath neu Dylluan.
Pryfed ac ymlusgiaid: Ewch i lannerch yr ymlusgiaid, ac mae’n bosibl y gwelwch Neidr Ddefaid, Neidr y Gwair neu Wiber. Cofiwch beidio â mynd yn rhy agos atynt. Mae’r llannerch welltog yn cynnig amodau heulog a chynnes ar gyfer yr anifeiliaid gwaed oer hyn.
Sut i gyrraedd: O ganol tref Caerffili, ewch ar hyd Ffordd y Fan i gyfeiriad Comin Rhydri. Ewch am 500m heibio'r parc diwydiannol i faes parcio ar ochr chwith y ffordd. Cewch gerdded i'r coetiroedd o feysydd parcio Caerffili a Chomin Rhydri. Mae bysiau'n rhedeg i dref Caerffili sydd yn agos i'r coetiroedd.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap) Mynediad trwy
Mynedfa Porth Caerffili
Cyfleusterau:
 Gweithgareddau:
 
 |
Mynediad agored i farchogwyr |
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyswllt: Barbara Spence Area Manager 0845 6040845 e-bost: barbara.spence@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |
 |