|
|
Coedwig Gwyllt - Coed y Parc
Abertawe
Cymru
Melin Y Parc yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 14 83
Coetir poblogaidd ar Benrhyn Gŵyr i’r gorllewin o Abertawe yw Parkwood. Oherwydd ei goetir ynn o bwys Ewropeaidd mae Parkwood, a choedydd eraill ar Benrhyn Gŵyr, wedi ennill statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig.
Mamaliaid: Mae dwy rywogaeth o ystlum yn Parkwood, sef yr Ystlum Pedol Mwyaf a’r Ystlum Pedol Lleiaf. Mae’r rhain yn clwydo mewn holltau mewn coed a chreigiau ac yn hela pryfed dros laswelltir y dyffrynnoedd ac ymysg coed y coetir. Ânt i gysgu yn y gaeaf ac er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi mae’n hollbwysig peidio â tharfu arnynt.
Adar: Mae’r coed yn gartref i amrywiaeth o adar megis y Bwncath, Cnocell y Coed a Thelor y Cnau. Rydych chi’n debygol o weld ffesantod drwy gydol yr haf.
Cynefinoedd: Coetir Ynn Hynafol yw Parkwood sydd o bwys rhyngwladol. Mae coed ynn yn tyfu’n dda ar garreg galch Gŵyr gyda phlanhigion eraill sy’n hoffi amodau pridd cyffelyb. Gellir gweld Celynnen Fair (Ruscus aculeatus) ger y fynedfa.
Sut i gyrraedd: Trowch i'r dde hanner milltir ar ôl Melin y Parc.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap) Mynediad trwy
Melin y Parc
Cyfleusterau:
 Gweithgareddau:

 |
Trwydded yn unig. Am rhagor o manylion cysylltwch a'r rheolwr ardal lleol ar 01639 710221. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyswllt: Tanya Dykes Swyddfa Rhanbarth Coedwigo Coed y Cymoedd 0845 6040845 e-bost: tanya.dykes@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Defnyddir odynau ar y safle o hyd i gynhyrchu golosg o deneuon a choed copi.
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |
 |