|
|
Coedwig Gwyllt - Pont Llogel Dyfnant
Powys
Cymru
Llangadfan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Dyma goetir a enwebwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol (SDGN/SSSI). Cliriwyd ochr uchaf llwybr y glannau o gonifferau er mwyn caniatáu i rywogaethau brodorol i ymsefydlu, yn eu plith cyll, bedw ac ynn.
Mamaliaid: Mae amrywiaeth o famaliaid yn byw yn y coed; cewch weld llwynogod yn chwilio am fwyd yn gynnar yn y bore neu yn yr hwyr. Gwelir y wiwer lwyd yn dringo’r coed. Maent yn fwy o faint na’r wiwer goch, sef tua 10" o hyd a chynffon lai trwchus 8" o hyd. Bydd y wiwer lwyd yn ymosod ar goed yn gynnar yn yr haf, gan gnoi’r prif foncyff wrth chwilio am yr haenau suddlawn melys yn union o dan y rhisgl. Mae dyfrgwn yn mynychu’r afon yn ymyl y llwybr a’i glannau. Gall dyfrgwn deithio dros ardaloedd helaeth, ac mae’n hysbys bod rhai yn defnyddio cynefinoedd glannau’r afon am 20km neu fwy. Bydd dyfrgwn yn dodi eu tail sydd ag arogl melys mwsoglyd mewn mannau amlwg o gwmpas eu cynefinoedd. Mae’r rhan yn dynodi eu tiriogaethau ac yn helpu anifeiliaid cyffiniol i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Dyfrgi
Adar: Mae llawer o adar mân i’w gweld yn y coed wrth iddynt chwilio am drychfilod a hadau. Aderyn a welir ger yr afon yw’r trochydd sydd yn cerdded i fyny nant neu afon ar y gwaelod gyda’i ben i lawr, gan droi cerrig drosodd wrth chwilio am chwilod y dŵr, larfa trychfilod a molysgiaid. Mae’n 7" o hyd, gyda phlu du a bron fawr wen.Mae gan bob trochydd diriogaeth gul hyd at 2 filltir o hyd ar lannau nant neu afon, a bydd yn hedfan ar draws honno cyn chwilio am fwyd.
Pryfed ac ymlusgiaid: Ceir llwyni mwyar hyd yn oed yn y coetiroedd mwyaf trwchus. Gallant fod yn dalsyth, yn gorweddian neu’n ymgrwydrol. Unwaith y bydd llwyn mwyar wedi ymsefydlu, bydd llu o drychfilod ac adar yn dod i fwydo ar y blodau a’r ffrwythau. Mae llai dail yn sugno sudd y blaguron ifanc. Y tarianbryf yw un o’r nifer fach iawn o drychfilod sydd yn gofalu am ei epil. Yn ystod mis Gorffennaf mae’r fam i’w gweld ar ddeilen gyda’i deoriad o 30 i 40 o rai bach. Unwaith y caiff ei dychryn, bydd hi’n eu corlannu’n ddiogel o dan y ddeilen ac yn aros ar frig y ddeilen fel gwrthddeniad. Cynefinoedd: Wrth grwydro ar hyd y llwybr, byddwch yn sylwi ar y coed derw a’u boncyffion rhyfedd eu llun. Oddi ar glirio conifferau’r coed, mae coed llydanddail brodorol wedi dod i’r amlwg. O dan y gorchudd sydd wrthi’n datblygu, mae llawer o flodau gwyllt yn datblygu i roi golwg liwgar sydd yn gweddu’n dda gyda’r ysgafellau mewn mannau a chefndir yr afon. Fel arfer mae gan y bengaled benddu (Centaurea nigra) thusw trwchus o flodau yn debyg i ysgall. Mae’r blodau hyn yn ddugoch ac mae ganddynt lawer o resi o gennau yn gorgyffwrdd yn dynn, gyda blodigion ffrwythlon cochbiws ynddynt.
Sut i gyrraedd: B4395 i'r gogledd o'r A458.
Mynediad trwy
Pont Llogel
Cyfleusterau:
  Gweithgareddau:
 
Dyfnant Dyfnant
Cyswllt: Ieuan Evans Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: ieuan.evans@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Mae rhai lleoedd yng Nghymru mor bwysig i dreftadaeth naturiol y genedl maent wedi eu henwebu’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol (SDGN/SSSI). Nod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yw gweithio mewn partneriaeth gyda pherchnogion a deiliaid y Safleoedd arbennig hyn er mwyn sicrhau’r rheolaeth deimladol ohonynt a mwyhau eu diddordeb arbennig.
Beth i'm weld nawr Ar y coed yn y llecyn cysgodol hwn ceir yr enghraifft orau y gwyddir amdani o gymuned a nodweddir gan rywogaeth cen lobarion.
Oeddech chi'n gwybod Y gwrywod yw ysgyfarnogod gwallgof mis Mawrth, sydd yn llamu, cicio a sefyll ar eu coesau ôl i baffio ei gilydd mewn defod i wneud argraff ar y benywod cyn paru.
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |