|
|
Coedwig Gwyllt - Penyffordd Dyfnant
Dyfnant
Powys Cymru Llangadfan yw'r dref neu'r pentref agosaf. Cyfeirif Grid yr OS: SJ019134
Mynedfa i Goedwig Dyfnant sef goedwig fawr 5 milltir i’r de o Lyn Efyrnwy.
Mamaliaid: Mae coetir conifferau’n darparu "coridor" ar gyfer anifeiliaid swil neu fregus sydd yn caniatáu iddynt deithio’n bell o dan orchudd. Mae llwynogod, ysgyfarnogod a moch daear yn bresennol yn y goedwig hefyd. Mae ysgyfarnogod yn fwy o faint na’u perthnasau cwningod, ac mae ganddynt glustiau a choesau ôl hirach. Maent yn felynllwyd gyda chymysgedd o flew llwyd a melynllwyd ar rannau uchaf eu cyrff. Bydd ysgyfarnogod yn treulio oriau’r dydd yn eu gwalau, sef pantau bas o dan orchudd. Maent yn bwydo yn ystod oriau’r gwyll ar laswellt, gwreiddiau a rhisgl. Wrth gael eu tarfu byddant yn sefyll i fyny ac yna rhuthro i ffwrdd ar y funud olaf. Y gwrywod yw ysgyfarnogod gwallgof mis Mawrth, sydd yn llamu, cicio a sefyll ar eu coesau ôl i baffio ei gilydd mewn defod i wneud argraff ar y benywod cyn paru.
Adar: Mae’r gwyddwalch wedi ymledaenu oddi ar y 1980au ac mae i’w gweld yn hedfan uwchben. Mae’r groesbig yn bresennol yn Nyfnant hefyd gan fridio’n uchel yn y conifferau. Mae’r ceiliog yn amlwg yn ei liwiau coch ac mae’r iâr yn wyrddfelyn.
Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gwiddon yn wahanol i chwilod eraill gan fod eu pennau’n hirfain i ffurfio duryn gyda safnau ar y pen. Hefyd mae ganddynt deimlyddion hanner ffordd i lawr y duryn a elwir yn ‘gymalau penelin’. Mae Gwiddonyn y Pinwydd yn chwilen sydd yn bwyta planhigion ac a ystyrir yn gyffredinol fel pla. Maent yn gwneud mwy o ddifrod fel oedolion nag fel larfa. Pan dorrir pinwydden bydd y boncyffion yn lle delfrydol am ddodwy wyau. Bydd y larfa’n deor ac yn bwydo ar y boncyffion heb wneud fawr o niwed. Ond pan ail-blennir coedwig gyda choed ifanc gall oedolion y gwiddon achosi difrod mawr trwy fwyta’r rhisgl ac felly atal llifiant y sudd. Cynefinoedd: Mae coetir y conifferau’n ymylu ar rostir grugiog yn uwch i fyny ac ar dir amaethyddol amgaeëdig yn y de. Trwy atgynhyrchiad, mae derw, ynn, bedw a helyg wedi ymddangos mewn pocedi bychain. Y prif ffocws fydd parhau gyda Phrosiect Adfer y Grugieir Duon yn ardal Cerniau’r goedwig.
Sut i gyrraedd: Ewch ar hyd yr A458 o’r Trallwng i Ddolgellau a throwch i’r dde i’r B4395 yn Llangadfan, i Lyn Efyrnwy - tua 2 filltir ar y chwith.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Cyfleusterau:
Gweithgareddau:
 |
Man dechrau llwybrau'r Enfys - llwybrau marchogaeth a gyrru cerbydau ceffylau dynodedig gyda maes parcio adeiladwyd i bwrpas. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyswllt: Mike Whitley Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: mike.whitley@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Mae Cylch Meini hynafol yn Nyfnant Cyfeirif Grid SH985157. Hefyd mae Croes Faen yng Nghyfeirif Grid SH956165 - ychydig o wybodaeth sydd ar gael am y groes hon - ni wyddys pam y’i codwyd ac ers faint mae’n sefyll yno.
Beth i'm weld nawr Y boncath yw aderyn ysglyfaeth cyffredin mwyaf Prydain, wedi ei wasgau bellach ar draws bryniau’r gorllewin. Yn aml cewch weld hanner dwsin a mwy yn hedfan uwchben, gyda’u hadenydd llydan yn rhoi golwg gwyfynnod anferth iddynt. Mae ei sŵn yn debyg i fewian cath ac yn gyfrifol am eu henw Cymraeg.
Oeddech chi'n gwybod Pan darfir ar y pridd wrth glir dorri coedbydd ystod o blanhigion , yn cynnwys helyglys a bysedd y cŵn yn dod i mewn sydd yn ymledaenu ar y pridd clir.
Beth arall sydd yma
Tudalennau cysylltiedig
Am fwy o wybodaeth
|
 |