|
|
Coedwig Gwyllt - Coedwig Hafren
Powys
Cymru
Llanidloes yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SN857868
Cafodd y goedwig hon ei phlannu ar lethrau uchaf Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Pumlumon, lle mae’r dirwedd yn gymysgedd o fryniau a dyffrynnoedd.
Mae’r ardal yn ddalgylch dwr i Afon Hafren.
Mamaliaid: Bydd dyfrgwn yn defnyddio’r nentydd yng ngwaelod y dyffrynnoedd. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Dyfrgi
Adar: Gellir gweld llu o adar bach ar hyd y nentydd, gan gynnwys y Siglen Fraith (Pied Wagtail), y Fronfraith a llawer o olfanod (passerines) eraill. Gellir gweld Cigfrain yn mynd drwy eu campau yn yr awyr yn ystod y tymor bridio. Mae golygfeydd gwych yn yr ardal hon, a gellir gweld y Bwncath ac adar ysglyfaethus eraill yn gleidio yn y thermalau cynnes a grëir gan y bryniau a’r dyffrynnoedd.
Sut i gyrraedd: O ganol tref Llanidloes trowch i wynebu Neuadd y Farchnad o Ffordd y Dderwen Fawr a dilynwch Ffordd y Bont Fer yn union gyferbyn. Dilynwch y ffordd gul i'r Hen Neuadd. Mae safle picnic Rhiwbenwch 6 milltir i'r gorllewin o Lanidloes. Mae modd ei gyrraedd hefyd o ben gogleddol Llyn Clywedog ar y ffyrdd bach.
Edrychwch ar y map (Multimap) Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Cyfleusterau:
    Gweithgareddau:
  
 |
Mynediad agored i farchogwyr i Goedwig Hafren |
|
|
|
|
|
|
|
|
Mannau eraill i fynd yn eich ardal Ceri Clwyd Coed Sarnau Dyfnant Hiraethog Maesyfed Radnor Mathrafal
Cyswllt:
Jim Ralph Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: jim.ralph@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Ymysg yr Henebion Rhestredig y mae mwyngloddfeydd Nant yr Eira, lle gellir gweld rhai planhigion anarferol yn tyfu ymhlith y tomennydd gwastraff a’r adfeilion.
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |
 |