Am Parc Coedwig Afan
Mae'r Parc Coedwig yng Nghwm Afan, un o'r dyffrynnoedd cul a harddaf yn Ne Cymru. Mae'n goedwig fawr gyda chyfleoedd rhagorol ar gyfer hamdden, gyda llawer o lwybrau beicio a llwybrau troed. Mae'r goedwig hefyd yn brolio Canolfan Ymwelwyr (a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Castell-nedd a Phort Talbot, sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Comisiwn Coedwigaeth) a Chanolfan Beicio Mynydd newydd Glyncorrwg (a reolir gan Gydweithfa Pyllau Glyncorrwg). Mae yna lwybrau seiclo teuluol ar hyd hen reilffyrdd, a 4 llwybr beicio mynydd trwy'r goedwig. Hefyd mae yna nifer o lwybrau cyhoeddus a llwybrau cyfeirbwyntio.
Sut i fynd yno:
Port Talbot, Castell-nedd, Abertawe, a Glyncorrwg yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Tua 6 km i'r gogledd o Bort Talbot ar yr A4107. Dilynwch yr arwyddion am Barc Coedwig Afan.
Cyfeirif Grid yr OS: SS820 950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Lleoedd i fynd:Parc Coedwig Afan
Parc Coedwig AfanLleoedd eraill i ymweld â hwy yn yr ardal hon
Cyfleusterau:









Gweithgareddau:










Cyswllt:
Jon Price
0300 068 0300
e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk


