|
|
Coedwig Gwyllt - Parc Coedwig Afan Parc Coedwig Afan
Castell Nedd Aberafan
Cymru
Cwmafan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SS820950
Mae Parc Coedwig Afan yng nghanol prydferthwch cwm Afan, ac mae ganddo amrywiaeth o goetir o blanhigfeydd conifferau a choetiroedd coed llydanddail brodorol. Mae hyn yn cynnig cyfle i lawer o wahanol rywogaethau o adar, mamaliaid, trychfilod a phlanhigion ffynnu.
Mamaliaid: Mae’n bosibl y byddwch yn ddigon ffodus i gael cipolwg ar ddanasod yn pori ymhlith y planhigfeydd uwch o gonifferau. Gyda’r nos bydd ystlumod yn hedfan trwy’r cwm. Bu’r ysgyfarnog yn bresennol yma ers nifer o flynyddoedd, ond bellach mae niferoedd a lledaeniad y rhywogaeth flaenoriaethol Prydain ar gynnydd yn y Parc Coedwig. Mae gennym wybodaeth ar ddanasod ar Fallow deer. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Hydd brith
Adar: Mae coed derw hynafol ar lan yr afon yn gartref i amrywiaeth eang o adar, yn eu plith y tingoch a’r penddu. Clywyd y troellwr gyda’i gân unigryw yn y planhigfeydd ifanc. Mae’r trochwr yn mynychu Afon Afan ac mae cnocell y coed yn gyffredin, ac felly’n logo’r Parc. Mae gennym wybodaeth ar y troellwr ar Nightjar. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr
Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gwiberod i’w gweld yn achlysurol yn torheulio yn yr heulwen o gwmpas y caeau yng ngwaelod y dyffryn a bydd pili-palod amrywiol yn mynychu’r mannau cynhesach. Mae gennym wybodaeth ar nadredd a gwiberod ar Adder.
Sut i gyrraedd: Dilynwch yr A4107 o Gyffordd 40 ar yr M4 am tua 6 milltir, gan fynd heibio pentref Cwmafan. Bydd hon yn mynd â chi i mewn i galon Parc Coedwig Afan.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap) Mynediad trwy
Ty Maen Rhyslyn Canolfan Ymwelwyr Coedwig Afan
Cyfleusterau:
         Gweithgareddau:
        
 |
Nodwch os gwelwch yn dda ni fydd trwyddedau Parc Goedwig Afan yn cael eu dosbarthu tan y byddwn wedi sefydlu llwybrau ceffylau dynodedig. Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Rheolwr Ardal Leol. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyswllt:
|
Beth sydd o ddiddordeb
Archwiliwch y Parc Coedwig trwy ddilyn y llwybrau coedwig ar eich traed neu'ch beic, neu dewiswch y llwybrau dynodedig cerdded neu feicio a fydd yn mynd â chi i'r golygfannau gorau a nodweddion mwyaf diddorol o Ganolfan Cefn Gwlad Afan Argoed a'r meysydd parcio yn Rhyslyn a Thy-Maen.
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |