Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

Coedwig Gwyllt - Canolfan Ymwelwyr Garwnant
 

Coed Taf Fawr
Coedwigoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Merthyr Tudful
Cymru
Merthyr Tydfil yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SO 003 132
LLARWYDDENODYn swatio yn y Goedwig uwchben Cronfa Ddŵr LLwyn, mae Canolfan Ymwelwyr Garw Nant yn cynnig yr holl gyfleusterau y mae eu hangen i arloesi’r rhan hon o’r Parc Cenedlaethol, a llawer mwy, mewn cefndir o larwydd a chomifferau aeddfed gyda ffrwd fynyddig achoetir derw brodorol ychydig o lathenni i ffwrdd.

Mamaliaid: Mae nifer o rywogaethau o ystlumod yn bresennol yn Ngarw Nant ac o gwmpas ac maent i’w gweld bron pob hwyrnos rhwng Ebrill a Hydref.
Os byddwch yn ffodur ar adegau penodol o’r flwyddyn mae’n bosibl y byddwch yn gweld moch daear neu geirw cochion yn y goedwig o gwmpas y Ganolfan Ymwelwyr.
Mae dyfrgwn i’w gweld ar hyd y nentydd neu o gwmpas y cronfeydd dŵr ger y Ganolfan Ymwelwyr. Mae gennym wybodaeth ar geirw cochion Reddeer, moch daear Badger a dyfrgwn.

Adar: Y Barcud Coch, y Gwalch Glas, y Gwyddwalch, y Boda, y Cudyll, y Gigfran, Gwalch y Pysgod, y Gylfinir, y Gog, Cnocell y Coed (y tri math), Teloriaid. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch, Gwalch y pysgod

Pryfed ac ymlusgiaid: Neidr y Ddafad, y Neidr Lwyd, y Wiber, nifer o rywogaethau’r Pili-pala/Iâr Fach yr Haf. Mae trychfilod sydd yn gysylltiedig â chynefinoedd y dwr i’w gweld ar hyd Rhodfa’r Helyg gan gynnwys Gwas y Neidr a’r Fursen. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Gwiber

Cynefinoedd: Glannau Nant ac Afon, Coetir, Coniffer Coetir Cymysg, Nentydd, Pyllau Dwr.

Sut i gyrraedd:
Mae Garwnant dafliad carreg i ffwrdd o'r A470 bum milltir i'r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae arwyddion da yn dangos y ffordd o'r A470. Mae'r safle i'w gweld ar Fap Landranger 160 a Hamdden Allannol 12. Mae Stagecoach - rhif ffôn: 0870 6082608 - yn rhedeg cysylltiadau bws. Ar Wyliau'r Banc a Suliau trwy gydol yr haf mae Gwasanaeth Bws y Bannau'n rhedeg - rhif ffôn: 01873 853254.

Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)



Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Taith Gerdded yr Helyg

    Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Nid oes modd llogi beiciau ar hyn o bryd.

Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Ysgolion a Grwpiau Cymunedol! Dewch i ymuno â'r Rhodiwr i arloesi'r coedwigoedd o gwmpas Garwnant. Teilwrir ymweliadau addysgol a hwyl i bob angen.

Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Trwyddedau ar gael i bysgota yng Nghronfeydd Dwr y Bannau drwy peiriant yng Nharwnant ar y penwythnos neu drwy y peiriant neu Warden Dwr Cymru yn yr wythnos. NID OES TRWYDDEDAU AR GAEL DRWY Y COMISIWN COEDWIGAETH.

Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Tri llwybr cyfeiriadu o allu amrywiol llwybrau melyn, oren a gwyrdd.

Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Cwrs ymosod rhaff isel yw Gorffwylledd y Goedwig (Forest Frenzy). Yr oed addas yw 7 i fyny. Mae yna hefyd ardal chwarae ar gyfer plant iau.

Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mae Llwybr Taf o Gaerdydd i Aberhonddu sydd yn cynnig amrywiaeth o olygfeydd godidog yn mynd trwy'r ganolfan.

Cyswllt:
Mansel Jones
Local Area Manager
0845 604 0845
e-bost: mansel.jones@forestry.gsi.gov.uk


Beth sydd o ddiddordeb
Mae rhywogaeth o goed yn bodoli sydd ag ond un ar bymtheg o enghreifftiau yn hysbys trwy’r byd i gyd, pob un ohonynt yng Nghwm Taf. Mae saith ohonynt yn tyfu ar dir y Comisiwn Coedwigaeth, dau ohonynt i’w gweld yng Ngholfan Ymwelwyr Garwnant. Y goeden yw Cerddinen y Darren Fach (Sorbus leyana).

Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov