Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Coedwig Gwyllt - Penllyn
 

Gwynedd
Cymru
Bala yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 954313
Y Grugiar Ddu yw rhywogaeth allweddol yr ardal a rheolir y coetiroedd felly. O bosibl byddwch yn cael cip ar grugiar ddu ar ymylon y goedwig lle mae’r gweundir yn cwrdd â’r goedwig er bod ailstwythuro helaeth o’r coetiroedd yn golygu bod y grugiar bellach yn paru, bridio a chodi eu cywion o fewn y goedwig. Y prif fannau i edrych am grugieir yw ardaloedd Aberhirnant, Celyn a Phenaran. Dyma dair planhigfa ar y tir uchel gyda llecynnau helaeth o ros a gweundir agored.

Mamaliaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Hydd brith

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Grugiar ddu

Cynefinoedd: Dyma ardal ddiddorol am ledaeniad bywyd gwyllt yn y dyfodol gan y sefydlwyd 150 hector arbrofol am ledaeniad coed bedw. Cyflawnwyd hyn trwy osod canghennau o fedw yn llawn hadau yn y matiau o drash (a wnaed o olion cynaeafu) er mwyn caniatáu i’r gwynt wasgaru’r hadau dros y safle. Disgwylir y bydd y broses hon yn cymryd blynyddoedd, ond dyma ffordd hawdd, a, gobeithio, effeithlon o greu coetir llydandail ‘yn rhad ac am ddim’. Rhagwelir y bydd hyn hefyd o fudd i fywyd gwyllt yr ardal fel adar mân a’r grugiar. Nid oes llawer i’w gweld hyd yn hyn, ond dros y blynyddoedd nesaf dylwn ddisgwyl i goed bedw ifanc fwrw gwreiddiau. Hon fydd yr ardal fwyaf o goetir llydandail i gael ei sefydlu erioed ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Sut i gyrraedd:
O’r gogledd:
O’r A5 ymunwch â’r A494 i’r Bala. Wrth ddod i mewn i’r Bala, trowch i’r chwith i’r
B4391. Ewch ymlaen am filltir a hanner, yna cymerwch y tro nesaf i’r dde i gyfeiriad Rhos y Gwaliau
mae’r fynedfa dair milltir o’r cyffordd.
O’r gorllewin

O’r A470 ymunwch â’r A4212 i’r Bala . Ewch yn syth ar draws y ffordd i’r B4391. Yna fel uchod.
O’r de

O’r A470 ymunwch â’r A494 i’r Bala. Ar ôl i chi fynd trwy’r Bala, trowch i’r dde i’r B4391. Yna fel uchod.

Edrychwch ar y map (Multimap)
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)


Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad Agored drwy’r ardal leol heblaw'r Ranges - dim mynediad o gwbwl

    Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad Agored drwy’r ardal leol heblaw'r Ranges - dim mynediad o gwbwl

Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad Agored drwy’r ardal leol heblaw'r Ranges- dim mynediad o gwbwl

   

Mannau eraill i fynd yn eich ardal
Dyfi
Gwydyr
Hafod
Y Bwa
Coed Maenarthur
Coed y Brenin
Nant yr Arian
Y Gelli Ddu
Niwbwrch

Cyswllt:



Beth sydd o ddiddordeb
O bosibl yr hoffech helpu staff coedwig Coed y Mynydd gyfri’r grugieir wrth iddynt baru ar eu ‘dawnsfeydd’ yn gynnar yn y gwanwyn. Os ydych yn barod i godi erbyn 4 o’r gloch y bore, ffoniwch swyddfa Coed y Mynydd a gofynnwch am y Swyddog Cadwraeth - rhif ffôn: 01341 422289.

Beth arall sydd yma
Safleoedd defnyddiol
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov