|
|
Coedwig Gwyllt - Coed y Brenin
Gwynedd
Cymru
Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
Mae gan y goedwig gymysgedd o gynefinoedd, rhywogaethau ac archaeoleg o ganlyniad i’r ddaeareg, y topograffi a’r hinsawdd. Coedwig unigryw yw Coed y Brenin sydd hefyd yn gartref i nifer o bobl sy’n parhau i ffermio’r tyddynnod yn yr ardal. Ceir rhywogaethau a chynefinoedd cyffredin a phrin yn y goedwig, o’r ji-binc sy’n bwyta briwsion ymwelwyr y tu allan i’r caffe i’r bele swil. Yr amrywiaeth hon sy’n gwneud Coed y Brenin yn gyrchfan mor ddiddorol.
Mamaliaid: YSTLUMOD. Mae grwpiau lleol sy’n ymddiddori mewn ystlumod yn trefnu teithiau tywys i gyflwyno’r cyhoedd i ymddygiad ac arferion bwydo ystlumod megis yr ystlum lleiaf, yr ystlum hirglust, yr ystlum mawr a’r ystlum barfog. Ceir ychydig o geirw yma hefyd. Hydd brith yw’r rhan fwyaf ohonynt ac mae ambell iwrch hefyd. Yr unig gyfle gewch chi i weld yr anifeiliaid hyn yw adeg toriad gwawr neu fachlud haul yn rhannau deheuol y goedwig. Gwelir gwiwerod coch ambell waith yn y goedwig. Maent hwy’n anodd i’w gweld gan eu bod yn anifeiliaid y nos, er y byddant yn chwilio am fwyd yn ystod y dydd i ryw raddau hefyd. Os gwelwch un, bydd swyddfa Coed y Mynydd yn falch iawn o glywed gennych: ffoniwch 01341 422891 a gofynnwch am y Rheolwr Cadwraeth. Dros y blynyddoedd, er i sawl un honni iddo weld y bele, ni chafwyd unrhyw brawf pendant. Ni lwyddwyd i gael cadarnhad sicr o bresenoldeb y creaduriaid hynod o swil hyn ac mae prosiect ar y gweill i sefydlu hafanau i’r bele. Os ydych yn sicr eich bod wedi gweld bele, hoffai swyddfa Coed y Mynydd glywed gennych; ffoniwch 01341 422891 a gofynnwch am y Rheolwr Cadwraeth. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Hydd brith
Adar: Mae’n bosibl y gwelwch y rugiar ddu ar ymylon y goedwig lle mae’r gweundir yn cwrdd â’r coed. Mae’n hawdd adnabod y ceiliogod: mae ganddynt blu du nodedig a chynffon amlwg, ar siâp telyn, wrth hedfan. Fodd bynnag, mae’n anos gwahaniaethu rhwng yr iâr a’r rugiar goch sydd hefyd yn byw ar ymylon y coed. Gellir gweld adar ysglyfaethus bach a mawr ym mhob rhan o’r goedwig. Gwelir y bwncath yn hedfan yn uchel uwchben y dyffrynnoedd; mae gwalch marthin yn fwy llechwraidd ac mae’n anodd iawn ei weld wrth iddo lithro’n ddistaw drwy goed aeddfed tal ac i mewn i isdyfiant trwchus i ddal ei ysglyfaeth. Mae barcudiaid yn dod yn fwy cyffredin hefyd wrth iddynt ehangu eu tiriogaeth tua’r gogledd. Hwn yw’r aderyn ysglyfaethus hawsaf i’w adnabod oherwydd ei gynffon goch fforchog fawr. Gwelir yr hebog tramor ambell waith hefyd. Os ydych chi’n lwcus iawn fe welwch gudyll bach ond rhaid i chi fod yn gyflym. Rydych chi’n fwyaf tebygol o’i weld ar y ffin rhwng y goedwig a’r gweundir. Mae’r boda tinwyn wedi cael ei weld yn achlysurol. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Grugiar ddu, Barcud coch
Pryfed ac ymlusgiaid: Ceir ieir bach yr haf a gwyfynod mewn rhai o’r cynefinoedd mwy agored. Rhai o’r rhywogaethau mwy cyffredin a phrin yw’r glesyn cyffredin, brith perladeiniog bach, brith gwyrdd, gweundir bach, peunog, mantell goch, brith y coed, llwyd y ddôl, iâr fach y glaw, melyn y rhafnwydd, gwibiwr mawr, gwibiwr bach, iâr fach amryliw, brithribin porffor. Rhai o’r lleoedd gorau i weld ieir bach yr haf yw safle picnic Glasdir a’r hen gaeau ger Canolfan Maesgwm. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Brith arianresog Cynefinoedd: Mae nifer o goetiroedd llydanddail gogoneddus yn cuddio prif ddyffrynnoedd y goedwig. Coetiroedd derw uwchdirol yw’r rhan fwyaf o’r rhain ac maent hwy’n gartref i rai o gennau a bryoffytau prinnaf Prydain. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mynydd-dir coed derw
Sut i gyrraedd: I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir i’r gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, i’r de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Cyfleusterau:
       Gweithgareddau:
         
 |
Mynediad agored, llwybrau cerdded wedi’u cyfeirbwyntio a milltiroedd o hawliau ffordd cyhoeddus. |
|
 |
Mynediad agored ar heolydd coedwig, 5 llwybr wedi’u cyfeirbwyntio a llwybrau march. |
 |
Mynediad agored ar heolydd coedwig, a llwybrau march. |
|
|
|
Cyswllt: Aled Thomas Area Manager 01341 422289 e-bost: aled.thomas@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth sydd o ddiddordeb
Mae cuddfan gwylio ceirw yn y goedwig. Fedrwch casglu'r allwedd o swyddfa Coed y Mynydd, ffon: (01341) 422289. Yn y cuddfan mae cyfeir-lun rhywogaethau ceirw felly mae adnabod unrhyw ceirw a welwch yn hawdd.
Oeddech chi'n gwybod Gan fod ystlumod yn amddiffynedig mae’n bwysig peidio a’u aflonyddu yn ystod eu gaeafgwsg.
Beth arall sydd yma
Safleoedd defnyddiol
Am fwy o wybodaeth
|
 |