Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Coedwig Gwyllt - Clocaenog
 

Hiraethog
Sir Ddinbych
Cymru
Ruthin, Cyffylliog, Clawdd Newydd, a Clocaenog yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ000530
Mae’r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yng Nghymru yn byw yng Nghlocaenog. Mae’r goedwig hefyd yn cynnal llawer o rywogaethau pwysig arall fel y Rugiar Ddu, y Troellwr, Dyfrgwn, Llygoden y Dwr a’r Brith Perladeiniog

Mamaliaid: Bu Chlocaenog yn destun prosiect chwe mlynedd yn ymchwilio’r Wiwer Goch ac mae nawr yn ganolfan blaenaf ar gyfer gwaith cadwraeth dros y Wiwer Goch yng Nghymru. Mae Clocaenog yn darparu bwyd o dewis y Wiwer Goch gan mae’n hoff o hadau y conifferiaid Pinwydd Alban a Sbriwsrwydd Norwy, gyda Llarwydden Siapan pan mae ar gael.
Efallai gewch chi cipolwg o wiwer goch – darganfyddwyd y brosiect fod un wiwer bob tri i bedwar hectar!
Darganfuwyd bod gwiwerod coch yn ymaddasu i waith coedwigo megis teneuo drwy symud eu cartrefi i rannau addas o’r goedwig gerllaw. Byddent yn dychwelyd i’w tiriogaeth wreiddiol ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Fel canlyniad i’r brosiect cynhyrchwyd cyfres o ganllawiau rheoli ac fe’u rhoddwyd ar waith gan y Comisiwn Coedwigaeth yn rheolaeth Clocaenog a choetiroedd eraill. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Wiwer goch

Adar: Mae’n well gan rugieir du yng Nghymru gynefinoedd ar gyrion coetiroedd, yn enwedig lle maent hwy’n cwrdd â gweundir grug. Mae lleoedd gwlyb yn bwysig hefyd, gan ddarparu bwyd ychwanegol i’r iâr cyn iddi ddodwy ac i’r cywion bach. Collwyd llawer o’r cynefinoedd hyn wrth i goedwigoedd aeddfedu, oherwydd rheolaeth wael ar weundiroedd, ac o ganlyniad i welliannau amaethyddol.
Lansiwyd y prosiect Adfer y Rugiar Ddu yng Nghymru ym 1997. Partneriaeth ydyw rhwng yr RSPB, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Pwrpas y prosiect yw atal dirywiad y rugiar ddu yng Nghymru ac, yn y tymor hir, cynyddu ei thiriogaeth a’i niferoedd. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar y mannau paru presennol - ar greu a gwella’r cynefinoedd sydd eu hangen ar y rugiar ddu ar gyfer bwydo, dodwy wyau a magu cywion. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr, Grugiar ddu

Pryfed ac ymlusgiaid: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Brith arianresog

Sut i gyrraedd:
Dilynwch y B5105 o Ruthun

Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)

Mynediad trwy
Cuddfan Adar Foel Frech
Cuddfan Bywyd Gwyllt Bontuchel
Pincyn Llys


Cyfleusterau:
Symbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allwedd

Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad agored i farchogwyr.

   
Hiraethog
Alwen




Cyswllt:
Steve Crosby
Rheolwr Ardal Lleol
0845 604 0845
e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk


Beth arall sydd yma
Tudalennau cysylltiedig
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov