|
|
Coedwig Gwyllt - Clwyd
Sir Ddinbych
Cymru
Rhuthun, Dinbych, Yr Wyddgrug, a Rhyl yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ172611
Mae Coedwig Clwyd wedi’i lleoli ym Mryniau Clwyd, mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae’r tri choetir hyn sef Llangwyfan Nercwys a Moel Famau, ar ffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn cynnig golygfeydd anhygoel dros ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Mamaliaid: Ceir llawer o wahanol rhywogaethau o mamaliaid yn y goedwig, y mwyafrif yn hela wedi nos a felly ddim yn cael eu gweld yn aml yn ystod y dydd fel Llwynogod, Gwaddod, Llygod y Maes a Mochyn Ddaear. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mochyn daear
Adar: Mae’r ardal hon yn cynnwys tirwedd amrywiol, yn weundir, ffriddoedd a choedwigoedd, a cheir yma sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys y Rugiar Ddu, adar ysglyfaethus ac adar bach. Gellir gweld Cigfrain yn yr awyr yn mynd drwy eu campau yn ystod y tymor bridio. Bydd y gigfran yn nythu’n gynnar, gan gasglu defnyddiau ar gyfer y nyth ym mis Chwefror. Bydd y gigfran yn paru am oes a bydd y pâr yn defnyddio’r un nythfan flwyddyn ar ôl blwyddyn Byddant yn nythu ar greigiau a ysgafellau a hefyd mewn coed. Bydd y ceiliog a’r iâr yn gwneud y nyth gan ddefnyddio brigau a phridd, a’i chlustogi â mwsogl a gwlân. Bydd yr iâr yn dodwy nythaid o 3 i 7 o wyau sydd yn cymryd tuag 20 o ddiwrnodau i ddeor. Bydd y cywion yn dechrau hedfan ar ôl 34 i 50 o ddiwrnodau.Mae’n ddu i gyd, gyda sglein glas, porffor a gwyrdd i’r plu, a phig a choesau duon a llygaid dugoch. Mae’r rhai ifanc yn debyg, ond mae eu plu rhyw ychydig yn fwy golau a llygaid mwy gwelw. Mae plu hir, pigfain ar y gwddf yn rhoi golwg farfog i’r gigfran neu argraff o ben mawr neu wddf barfog. Mae’r big drymach, grymusach, mwy o faint yn ei gwahaniaethu oddi wrth y frân. Wrth iddi hedfan edrychwch am ben mawr, gwddf hir, cynffon ar ffurf letem a phlu pennau’r adenydd wedi’u taenu oddi wrth ei gilydd. Mae cri’r gigfran - crawc, crawc - yn hawdd ei adnabod. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Grugiar ddu
Sut i gyrraedd: Lleolir Coedwig Clwyd rhwng yr Wyddgrug a Rhuthun oddi ar yr A494. O’r A55 cymerwch yr A494 gan osgoi Canol Tref yr Wyddgrug. Mae Coedwig Clwyd i’r gorllewin.
Edrychwch ar y map (Multimap) Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Lleoedd i fynd:Clwyd
Nercwys Moel Famau Llangwyfan
Gweithgareddau:
 
 |
Mynediad agored i farchogwyr. |
|
|
|
|
|
|
|
|
Mannau eraill i fynd yn eich ardal Ceri Coed Sarnau Coedwig Hafren Dyfnant Hiraethog Maesyfed Radnor Mathrafal
Cyswllt:
Steve Crosby Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk
|
Beth arall sydd yma
Tudalennau cysylltiedig
Am fwy o wybodaeth
|
 |