Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Coedwig Gwyllt - Nercwys
 

Clwyd
Sir Ddinbych
Cymru
Yr Wyddgrug yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ218593
Coedwig gonifferaidd cafodd ei blannu drwy’r 1950au diweddar a’r 1960au cynnar yw Nercwys. Mae rhannau o’r ardal wedi cael eu ailblannu ac mae amrywiaeth o rywogaethau conifferaidd mewn bodolaeth ar draws yr ardal. Gan fod yr ardal yn eithaf gwastad mae rhwydwaith ffordd a marchogaeth da yn galluogi mynediad drwy gerdded, neu farchogaeth neu feic.

Mamaliaid: Ynghyd â’r mamaliaid arferol e.e. llwynogod, ffwlbartiaid ag ati efallai y byddwch yn lwcus i weld y Carw Muntjac. Yn anaml iawn y gwelir y carw bychan yma gan ei fod wedi’i cuddliwio yn yr isdyfiant isel.

Adar: Yn aml gellid gweld Cudyllod coch a Boncathod uwchben y goedwig ac adar bach eraill yn bwydo o fewn yr ailstoc. Efallai y byddwch yn lwcus i weld y Dylluan Hirglust anghaffaeladwy. Ni welir yn aml yn ystod y dydd, mae yn hela yn ystod y cyfnos, fel tylluanod eraill.
Mae’r tir agored hefyd yn denu Troellwyr i fewn i’r ardal, ond unwaith eto, gan eu bod wedi cuddliwio nid ydyw’n hawdd ei gweld. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr

Pryfed ac ymlusgiaid: Un rhywogaeth anghyffredin sydd wedi cael ei gofnodi yn Nercwys yw’r Madfall Gorgopog, lle mae’n defnyddio tamaid o’r hen lyn cafodd ei greu yn ystod plannu’r goedwig.

Cynefinoedd: Ar un adeg roedd Nercwys yn rhan o fynydd a rhostir agored ac yn aml yn cael ei alw’n Fynydd Nercwys. Mae’r llystyfiant dal i gynnwys rhai rhywogaethau rhostir o grug a llus.
Cafodd yr ardal ei gloddio yn y 1930au ac wedyn ei blannu â rhywogaethau coniffer yn y 1950au.

Sut i gyrraedd:
O’r A494 i’r gorllewin o’r Wyddgrug ym mhentref Gwernymynydd, dilynwch Ffordd Glyndwr (ger tafarn Yr Enfys) ac ewch tua’r de. Yn y groesffordd cyntaf ewch yn syth ymlaen i Ffordd Cae Newydd. Mae’r ffordd yma yn eich arwain i’r cornel gogledd- dwyrain o’r goedwig ac arwydd o lechen ‘Coed Derw’r Mileniwm’. Ewch i’r dde fan yma ac mae’r maes parcio tua 150m ar y dde.

Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)

Mynediad trwy
Nercwys


Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Mynediad agored i farchogwyr.

   
Clwyd
Moel Famau
Llangwyfan


Cyswllt:
Steve Crosby
Rheolwr Ardal Lleol
0845 604 0845
e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk


Beth sydd o ddiddordeb
Darganfuwyd claddfa Neolithig o fewn y coetir, a gellir gweld olion yr ymylfeini a osodwyd o fewn y safle.

Beth arall sydd yma
Tudalennau cysylltiedig
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov