Coedwig Gwyllt - Nercwys Nercwys
Clwyd
Sir Ddinbych Cymru Yr Wyddgrug yw'r dref neu'r pentref agosaf. Cyfeirif Grid yr OS: SJ218593
Coedwig gonifferaidd cafodd ei blannu drwy’r 1950au diweddar a’r 1960au cynnar yw Nercwys. Mae rhannau o’r ardal wedi cael eu ailblannu ac mae amrywiaeth o rywogaethau conifferaidd mewn bodolaeth ar draws yr ardal.
Gan fod yr ardal yn eithaf gwastad mae rhwydwaith ffordd a marchogaeth da yn galluogi mynediad drwy gerdded, neu farchogaeth neu feic.
Mamaliaid: Ynghyd â’r mamaliaid arferol e.e. llwynogod, ffwlbartiaid ag ati efallai y byddwch yn lwcus i weld y Carw Muntjac. Yn anaml iawn y gwelir y carw bychan yma gan ei fod wedi’i cuddliwio yn yr isdyfiant isel.
Adar: Yn aml gellid gweld Cudyllod coch a Boncathod uwchben y goedwig ac adar bach eraill yn bwydo o fewn yr ailstoc. Efallai y byddwch yn lwcus i weld y Dylluan Hirglust anghaffaeladwy. Ni welir yn aml yn ystod y dydd, mae yn hela yn ystod y cyfnos, fel tylluanod eraill. Mae’r tir agored hefyd yn denu Troellwyr i fewn i’r ardal, ond unwaith eto, gan eu bod wedi cuddliwio nid ydyw’n hawdd ei gweld. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Troellwr
Pryfed ac ymlusgiaid: Un rhywogaeth anghyffredin sydd wedi cael ei gofnodi yn Nercwys yw’r Madfall Gorgopog, lle mae’n defnyddio tamaid o’r hen lyn cafodd ei greu yn ystod plannu’r goedwig. Cynefinoedd: Ar un adeg roedd Nercwys yn rhan o fynydd a rhostir agored ac yn aml yn cael ei alw’n Fynydd Nercwys. Mae’r llystyfiant dal i gynnwys rhai rhywogaethau rhostir o grug a llus. Cafodd yr ardal ei gloddio yn y 1930au ac wedyn ei blannu â rhywogaethau coniffer yn y 1950au.
Sut i gyrraedd: O’r A494 i’r gorllewin o’r Wyddgrug ym mhentref Gwernymynydd, dilynwch Ffordd Glyndwr (ger tafarn Yr Enfys) ac ewch tua’r de. Yn y groesffordd cyntaf ewch yn syth ymlaen i Ffordd Cae Newydd. Mae’r ffordd yma yn eich arwain i’r cornel gogledd- dwyrain o’r goedwig ac arwydd o lechen ‘Coed Derw’r Mileniwm’. Ewch i’r dde fan yma ac mae’r maes parcio tua 150m ar y dde.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap)
Gweithgareddau:
Cyswllt: Steve Crosby Rheolwr Ardal Lleol 0845 604 0845 e-bost: steve.crosby@forestry.gsi.gov.uk
|