|
|
Coedwig Gwyllt - Gwydyr
Conwy
Cymru
Betws-Y-Coed yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH794611
Mae coedwig Gwydyr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Ceir yma gymysgedd o gynefinoedd a rhywogaethau ac mae’n lle ardderchog i wylio bywyd gwyllt gan fod cymaint i’w weld a’i wneud. Cewch fwynhau llynnoedd uwchdirol, afonydd mawr, coetiroedd derw uwchdirol, coed conifferaidd mawr a lleoedd agored, sydd i gyd yn darparu cynefin amrywiol i adar, mamolion a phlanhigion o bob math.
Mamaliaid: Mae’n bosibl y gwelwch hydd brith neu, ambell waith, iyrchod yn y goedwig adeg toriad gwawr neu fachlud haul. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Iwrch, Hydd brith
Adar: Mae’r Rugiar Ddu yn byw yn y goedwig ddeheuol ac yng nghoetiroedd Tyn y Cwm. Y rhain yw rhannau mwyaf newydd y goedwig lle mae gweundir yn cwrdd â choed, gan greu hoff gynefin y grugieir. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Grugiar ddu
Pryfed ac ymlusgiaid: Ceir ieir bach yr haf a gwyfynod yn y llecynnau agored yn y goedwig. Rhai o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yw’r glesyn cyffredin, brith perladeiniog bach, brith gwyrdd, gweundir bach, peunog, mantell goch, brith y coed, llwyd y ddôl, iâr fach y glaw, melyn y rhafnwydd, gwibiwr mawr, gwibiwr bach, iâr fach amryliw, brithribin porffor. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Glöyn ffridd fawr, Brith arianresog Cynefinoedd: Mae coedwig Gwydyr yn enwog am ei ffynidwydd Douglas a’i sbriws Norwy mawr, y mae rhai ohonynt dros 180 oed. Ceir rhai o goetiroedd derw uwchdirol hynafol pwysicaf Cymru yn yr ardaloedd hyn. Oherwydd y cymysgedd o rywogaethau yn y goedwig, gwelir amrywiaeth o liwiau drwy gydol y tymhorau, yn enwedig yn yr Hydref wrth i liw y dail ddechrau troi. Mae llawer rhan o’r goedwig yn bwysig am ei gennau. Ceir y boblogaeth fwyaf o un rhywogaeth o’r fath yn y goedwig hon, dros arwynebedd o oddeutu 30 hectar. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Mynydd-dir coed derw
Sut i gyrraedd: Ffordd fach i'r Dwyrain oddi ar yr A470 yn Llanrwst. Gwahanol fynedfeydd o'r A5 rhwng Capel Curig a Betws-y-Coed.
Rhagolygon y tywydd lleol (Multimap) Mynediad trwy
Gwydyr Uchaf Llyn Crafnant Bryn Engan Pentre Du Eglwys Fair Modurdy Betws y Coed Cae'n y Coed Bwthyn Nant Llyn Geirionydd Ty'n Llwyn Llyn y Sarnau Pont y Pair
Cyfleusterau:
    Gweithgareddau:
       
 |
Mynediad Agored – Coedwig Beddgelert; Coedwig Gwydyr ar wahan i:Coed Celyn, Soflen, Moel y Ci & Braichmelyn:SYLWER OS GWELWCH YN DDA FOD YNA DDEFNYDD MAWR O FEICIAU MYNYDD YNG NGOGLEDD GWYDYR:Hefyd Mynediad Agored drwy De Gwydyr a Hafod Fawr, ond nid oes yna ddarpariaeth parcio. Y lleoedd orau ar gyfer dadlwytho yw Gwydyr Uchaf, Cae’n y Coed, Sarnau, Hafna, Pont Cae Groes a Beddgelert. Am ragor o wybodaeth am farchogaeth yn yr ardal yma gwelwch y ddoleni o dan tudalennau cysylltiedig ar y dde |
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyswllt:
|
Beth sydd o ddiddordeb
Mae yna nifer o feysydd parcio wedi eu arwyddo sy'n arwain at lawer o llwybrau gwahanol. Mae tref Betws Y Coed yn ganolog i bopeth sydd gan Gwydyr i gynnig a mae llawer o'r llwybrau yn arwain i'r goedwig yn syth o'r dre.
Beth arall sydd yma
Am fwy o wybodaeth
|
 |