Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  

 


Coedwig Gwyllt - Hafod
 

Ceredigion
Cymru

Coetir anhygoel yw ystad yr Hafod sydd wedi cael ei blannu â rhai coed a phlanhigion hynod o ddiddorol a phrin. Mae’r Barcud a’r Bwncath yn gyffredin yma a cheir llawer o rywogaethau o adar bach, megis y gwybedog brith a’r gnocell fraith fwyaf, yn y coetir derw. Mae’r goedwig gyfan yn safle PAWS (planhigfa ar safle coetir hynafol), felly mae’n cael ei rheoli i hybu tyfiant coed llydanddail drwy deneuo gofalus. Defnyddir ceffylau i wneud y rhan fwyaf o’r teneuo, a gellir eu gweld hwy wrth eu gwaith drwy gydol y flwyddyn.

Adar: Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Barcud coch

Pryfed ac ymlusgiaid: Ceir ieir bach yr haf a gwyfynod yn y llecynnau agored yn y goedwig. Rhai o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yw’r glesyn cyffredin, brith perladeiniog bach, brith gwyrdd, gweundir bach, peunog, mantell goch, brith y coed, llwyd y ddôl, iâr fach y glaw, melyn y rhafnwydd, gwibiwr mawr, gwibiwr bach, iâr fach amryliw, brithribin porffor. Mae’r cae gwartheg a’r man uwchlaw swyddfa Hafod yn ddau o’r llefydd gorau i edrych am y rhywogaethau yma. Mae gennym wybodaeth am y canlynol: Glöyn ffridd fawr, Brith arianresog



Cyfleusterau:
Symbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allweddSymbol y cyfleusterau a'r ddolen i'r allwedd

Gweithgareddau:
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allweddSymbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd
Symbol y gweithgareddau a'r ddolen i'r allwedd

Trwydded yn unig. Trwyddedau oddiwrth y Rheolwr Ardal Lleol Tony Ellis ar 01974 282540

   



Cyswllt:



Beth sydd o ddiddordeb
Os dilynwch y ddolen isod i safle we Jonathan West fedrwch ddarllen mwy am ddefnyddio ceffylau i goedwigo a gweld lluniau o Thor, ceffyl Jonathan, yn gweithio yn Hafod.

Beth arall sydd yma
Safleoedd defnyddiol
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.


to DirectGov