Am Cuddfan Adar Foel Frech
Mae’r guddfan gwylio yn olygfan da iawn yn edrych dros ardal goedwig Foel Frech gyda golygfeydd gorllewinnol dros Bron Banog a thuag at Pentrellyncymer. Mae yna lawer o rhywogaethau adar yn yr ardal yma.
Sut i gyrraedd:
Cyfeiriadau: Ar y B5105 o Ruthun i Gerrigydrudion, yng nghoedwig Clocaenog, cymerwch y troad i’r dde sydd ag arwyddbyst i Gyffylliog. Dilynwch y ffordd i’r gyffordd nesaf a chymerwch y troad i’r chwith sydd wedi’i arwyddbystio i Bentrellyncymer. Ar y chwith i’r ffordd eilradd o Gyffylliog i Bentrellyncymer, wrth ymyl Nilig, trowch ir chwith wrth arwyddbyst Foel Frech. Mae'r guddfan tua milltir i fyny llwybr y goedwig ac wedi’i gyfeirbwyntio o fynedfa’r goedwig.
Ruthin, Cyffylliog, Clawdd Newydd, a Clocaenog yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ013539
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
