Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Moel Famau

Am Moel Famau

Mae Coedwig Moel Famau yng ngogledd-orllewin Cymru, ym Mryniau Clwyd. Mae llwybr troed Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd ei ffin ac mae Parc Gwledig Tafarn y Celyn (Loggerheads) gerllaw. Cyfeiriwyd at goedwig Moel Famau fel y porth i Gymru wledig. Mae’n gorchuddio 597 hectar o dir, ac mae ganddi amrywiaeth gymharol eang o rywogaethau. Mae o fewn cyrraedd i Lerpwl, Caer a Wrecsam, a gellir gweld y mannau hyn o’r copa.

Sut i gyrraedd:

Yr Wyddgrug yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Cymerwch yr A494 o’r Wyddgrug. Dilynwch y ffordd hon drwy drefi Gwernymynydd a Thafarn y Celyn (Loggerheads) nes dod at gyffordd gydag arwydd ‘Parc Gwledig Moel Famau’ i’r dde. Dilynwch y ffordd hon am milltir, ac fe welwch y maes parcio ar y dde.

Cyfeirif Grid yr OS: SJ172611
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cychwynnwch eich ymweliad o:

Moel Famau

Gweithgareddau:

WalkingHorse Riding
horse riding

Mynediad agored i farchogwyr

Cyswllt:

Mike Whitley
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: mike.whitley@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

 
Bryniau Clwyd Llwybrau Cyfeirbwyntiedig tudalen 1(PDF) 3MB

Bryniau Clwyd Llwybrau Cyfeirbwyntiedig tudalen 2
(PDF) 960kb
---------------
Mae’n gyfleus ar gyfer trigolion trefi gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Dyma’r bryniau agosaf i lawer o bobl. Y llwybrau drwy’r goedwig i ben Moel Famau yw’r llwybrau mwyaf poblogaidd i’r copa. Nid oes anifeiliaid fferm yn pori yma, ac felly mae’r ardal yn boblogaidd iawn gan bobl sy’n mynd â’u cwn am dro.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.

Llwybr Pos anifeiliaid Moel Famau


Tudalennau cysylltiedig