Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Safle Picnic Gogerddan

Am Safle Picnic Gogerddan

Ceir man picnic cysgodol ar lan y nant yma ond 3 milltir i ffwrdd o Aberystwyth.

Sut i gyrraedd:

O Aberystwyth: Cymerwch yr A44 i gyfeiriad Llangurig. Ar ôl i chi fynd trwy Gapel Dewi byddwch yn dringo rhiw. Wrth ddisgyn, cadwch lygad allan am groesffordd ar y gwaeold a throwch i'r dde am Benrhyncoch. Ewch heibio tai gwydr anferth ar y dde, gan anwybyddu arwyddion am Swyddfeydd y Comisiwn Coedwigaeth ym Mhenrhyncoch ar y chwith, ac ewch heibio rhes o dai ar y chwith. Bydd mynedfa'r maes parcio'n ymddangos yn sydyn ar y chwith ar ôl y ty olaf.
O'r Dwyrain: Cymerwch yr A44 i gyfeiriad Aberystwyth. Tua 3 km ar ôl Penllwyn Capel Bangor cymerwch yr A4159 am Fachynlleth ar y dde. Ar ôl i chi fynd trwy Gapel Dewi byddwch yn dringo rhiw. Wrth ddisgyn cadwch lygad allan am groesffordd ar y gwaelod a throwch i'r dde am Benrhyncoch. Ewch heibio tai gwydr anferth ar y dde, gan anwybyddu arwyddion am Swyddfeydd y Comisiwn Coedwigaeth ym Mhenrhyncoch ar y chwith, ac ewch heibio rhes o dai ar y chwith. Bydd mynedfa'r maes parcio'n ymddangos yn sydyn ar y chwith ar ôl y ty olaf.
Penrhyncoch yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 718 813
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfleusterau:

Parking

Gweithgareddau:

Picnic
Walking Llwybr Gogerddan
HorseRiding.gif Marchogaeth trwy caniatad yn unig. Trwyddedau oddiwrth y Rheolwr Ardal Lleol, Tony Ellis, 01974 282540

Cyswllt:

Tony Ellis
Area Manager
01974 282540
e-bost: tony.ellis@forestry.gsi.gov.uk