Am Gwarchodfa Natur Pen-Bre
Pen-bre yw un o goedwigoedd tywyn Prydain, coetiroedd sydd yn anarferol ac sydd o ddiddordeb mawr i naturiaethwyr. Mae'r goedwig yn Warchodfa Natur yn cynnwys mil hectar. Mae'n gartref i lawer o rywogaethau botanig prin, 35 o rywogaethau o ieir bach yr haf, llawer o adar cân ymfudol yn ogystal ag adar ysglyfaethus yn cynnwys y gwalch glas a'r gwyddwalch. Mae coedwig Pen-Bre hefyd yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Sut i gyrraedd:
Pen-bre yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Mae Gwarchodfa Natur Pen-bre yn rhan o Goedwig Pen-bre
Dilynwch arwyddion Parc Gwledig Pen-bre o'r A484 ar ochr Cydweli i Ben-bre, ger Porth y Tywyn. Mae maes parcio bach y Comisiwn Coedwigaeth gydag arwydd Gwarchodfa Natur Goedwig ychydig cyn mynedfa'r Parc Gwledig. Neu cewch fynd ymlaen trwy'r Parc Gwledig i faes parcio Canolfan yr Ymelwyr. Codi'r tāl wrth fynedfa'r Parc (peiriant tocynnau).
Cyfeirif Grid yr OS: SN 413 006
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Maes Parcio Gwarchodfa Natur Pen-BreParc Gwledig Pen-Bre
Pen-Bre

Cyfleusterau:

Gweithgareddau:




Cyswllt:
Jon Price
0300 068 0300
e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk
