Am Ty'n y Coed
Coetir tawel, cysgodol gyda threftadaeth ddiwydiannol gyfareddol yn dyddio'n ol i'r oesoedd canol. Mae Ty'n y Coed yn goetir cymysg, rhannau ohono yno ers oes Elisabeth I. Rydym yn rheoli'r coetiroedd i gynnal yr amrywiaeth ledan o fywyd gwyllt. Edrychwch allan am y blodau gwyllt, bywyd yn y pwll (400m ar hyd y llwybr am y gogledd o'r maes parcio), a llawer o greaduriaid y goedwig. Cewch archwilio'r coetiroedd ar hyd rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau eraill - mae angen esgidiau addas.
Sut i gyrraedd:
Creigiau, Pentyrch, a Efail Isaf yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
Mae Ty'n y Coed rhwng pentrefi Creigiau, Pentyrch ac Efail Isaf, i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd. Trowch o'r A470 wrth yr allanfa am Gastell Coch ac ewch i gyfeiriad Pentyrch. Ym Mhentyrch trowch i'r dde wrth y siopau, gan ddilyn yr arwyddion am Efail Isaf. Trowch i'r chwith ar ol 400m i ffordd Ty'n y Coed ac ewch ymlaen am 1.5 km i'r maes parcio.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 084 827
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
