Am Coedwigoedd Blaenafon
Mae gan y coetir poblogaidd hwn ardal agored eang ar gyfer ymlacio, gyda phwll a golygfeydd draw tuag at yr Hafren. Mae yna lwybrau troed, llwybrau i'w cerdded a pharcio ar gael.
Coed ffawydd Cwmafon yw'r goedwig ffawydd mwyaf gorllewinol ac fe gawsant eu tyfu yma er mwyn cael eu defnyddio yn odyn galch Dan y Capel(sydd hefyd yn y goedwig).
Ceir yna gymysgedd o gonwydd a llydanddail yn y goedwig, yn bennaf Ffawydd. Y bwriad yn y tymor hir yw dychwelyd Blaenafon yn ôl i fod yn goetir llydanddail brodorol.
Sut i gyrraedd:
Blaenafon, Pont-y-pŵl, a Bryn Mawr yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
O Ffordd y Blaenau (A465) gadewch ym Mrynmawr a dilynwch yr arwyddion am 'Big Pit' a'r 'Gweithfeydd Haearn'; ewch heibio i 'Garn yr Erw' a chymerwch y troad i'r dde tuag at y Gweithfeydd Haearn; fyddwch yn mynd heibio i'r arwydd sy'n nodi 'Safle Treftadaeth y Byd'. Trowch i'r dde wrth y gyffordd 'T' ac ewch tuag at y goleuadau traffig; ewch drwy'r goleuadau a chymerwch y troad nesaf i'r chwith tuag at gylchfan mini. Cymerwch yr ail droad i'r chwith i fyny'r rhiw i faes y pentref a'r eglwys; trowch i'r dde a dros grid gwartheg. Mae'r goedwig ar eich ochr dde; mae yna fynediad yma.
Cyfeirif Grid yr OS: SO 263 083
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Gwybodaeth am Ffordd LlanoferCyfleusterau:



Gweithgareddau:






Cyswllt:
Emma Felkin
0300 068 0300
e-bost: emma.felkin@forestry.gsi.gov.uk
