Talybont
Am Talybont
Saif coedwig Tal-y-Bont ar ochr Glyn Collwn a Chronfa Ddwr Tal-y-Bont. Mae rhaeadrau Blaen-y-Glyn ym mhen uchaf y goedwig. Ar ddiwedd y 19eg ganrif 'roedd o leiaf deg fferm yma. 'Roedd caeau bach â waliau cerrig o gwmpas pob ffermdy, gyda'r coetir gerllaw yn rhoi pren am adeiladu a thanwydd. Yn ystod y 19eg ganrif cludwyd calchfaen ar hyd tramffordd Bryn Oer a rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful i gymoedd De Cymru. Mae hen hynt y rheilffordd bellach yn rhan o Lwybr Tâf ac mae llwybr troed yn dilyn y tramffordd.
Sut i fynd yno:
Tal-y-Bont yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Trowch oddi ar yr A40 yn dilyn yr arwyddion am Dal-y-Bont rhwng Aberhonddu a Bwlch. Wedi cyrraedd Tal-y-Bont dilynwch yr arwyddion am gronfa ddwr Tal-y-Bont trwy bentref Aberclydach, gan barhau nes gweld arwyddion y Comisiwn Coedwigaeth.
Cyfeirif Grid yr OS: SO 056178
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
unrated)



Been here, done this? What did you think?
Dywedwch wrthym beth ydych yn ei feddwl o this wood.