Am Treganas
Ystyrir coed Treganas yn 'Goetir Hynafol' sydd yn bodoli am o leiaf 300 mlynedd. Rhan o Ystâd Slebets yn wreiddiol, mae gan y coetiroedd doreth o hanes a chawsant eu defnyddio ar un adeg i hela ceirw a moch gwylltion a ryddhawyd yn y coetir ym 1834. Does dim ceirw neu foch gwylltion yma bellach, a'r unig anifeiliaid yr ydych yn debyg o'u gweld yw'r wiwer lwyd a'r cadno. Mae'r coetiroedd yn doreithiog hefyd â thrychfilod ac adar, ac mae blodau gwylltion yn ffynnu ar hyd llwybrau'r goedwig.
Sut i gyrraedd:
Narberth yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Mae bysiau rheolaidd (Rhifau 381, 322, 323) yn rhedeg rhwng Caerfyrddin, Hwlffordd a Narberth, gan aros wrth Bont Treganas. Mae Coed Treganas i'w cyrraedd ar hyd yr A4075 gerllaw. Os yn cyrraedd yn eich car, mae maes parcio ar ochr ddwyreiniol yr A4075 lle mae ffordd goedwig yn mynd i mewn i'r coed. Tu hwnt i'r maes parcio mae'r ffordd goedwig yn anaddas ar gyfer ceir.
Cyfeirif Grid yr OS: SN084137
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Coed Treganas
Cyfleusterau:


Gweithgareddau:


![]() |
Mynediad Marchlwybr a Chilffordd Byway yn unig |
Cyswllt:
Llanymddyfri Office
0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk
