Am Parc Coedwig Afan
Mae'r Parc yn nythu ar lethrau'r cwm ac mae'n cynnwys cymunedau Pontrhydyfen, Cymer a Glyncorrwg yn ogystal â 11,000 hectar o goedwig - o gopaon gwyntog i ddyffrynnoedd gleision disglair.
Mae swn cnocell y coed yn croesawu ymwelwyr i Gwm Afan, yn lle bwrlwm swn y diwydiannau a fu unwaith yn nodweddiadol o'r llethrau hyn. Mae coetiroedd aeddfed yn gorchuddio olion hen byllau glo, tramffyrdd a rheilffyrdd. Mae coed llydanddail brodorol yn ffynnu ar y llethrau îs ac mae nentydd a fu unwaith yn ddu â llwch y glo yn llifo'n loyw.
Archwiliwch y Parc Coedwig trwy ddilyn y llwybrau coedwig ar eich traed neu'ch beic, neu dewiswch y llwybrau dynodedig cerdded neu feicio a fydd yn mynd â chi i'r golygfannau gorau a nodweddion mwyaf diddorol o Ganolfan Parc Goedwig Afan a'r meysydd parcio yn Rhyslyn a Thy-Maen.
Sut i gyrraedd:
Cwmafan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Mae Parc Goedwig Afan yn rhan o Barc Coedwig Afan.
Dilynwch yr A4107 o Gyffordd 40 ar yr M4 am tua 6 milltir, gan fynd heibio pentref Cwmafan. Bydd hon yn mynd â chi i mewn i galon Parc Coedwig Afan.
Cyfeirif Grid yr OS: SS820950
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
TymaenRhyslyn
Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg
Canolfan Ymwelwyr Parc Goedwig Afan
Beico Mynydd ym Mharc Coedwig Afan

Cyfleusterau:









Gweithgareddau:










![]() |
Trwyddedau'n unig. Trwyddedau ar gael drwy Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. |
Cyswllt:
Jon Price
0300 068 0300
e-bost: jonathan.price@forestry.gsi.gov.uk


