Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Pont Melin Fach

Am Pont Melin Fach

Picnics, coedwigoedd a rhaeadrau

Mae’r safle picnic hwn yn fan cychwyn delfrydol i edrych o gwmpas coetiroedd a rhaeadrau cwm Nedd Fechan.  Mae Llwybr Elidir (3 milltir) yn cychwyn o’r maes parcio yma ac yn anelu i lawr yr afon, gan orffen ym mhentref Pontneddfechan.  Gofynnwch i rywun fynd â chi i’r maes parcio er mwyn osgoi mynd yn ôl yr un ffordd.  Y rhaeadr gyntaf y dewch ar ei thraws yw Sgwd y Ddwli.  Gallwch fynd i weld Sgwd Gwladus hefyd ond i chi adael y llwybr am ychydig hanner ffordd drwy’r daith.

Mae hon yn ardal bwysig iawn i fywyd gwyllt.  Canfuwyd dros 600 o blanhigion gwahanol yma, yn cynnwys casgliadau eithriadol o fwsoglau, rhedyn a chennau.  Cadwch lygad am y trochwr (aderyn bach tywyll gyda brest wen sy’n cerdded o dan y dŵr)

Byddwch yn ofalus wrth y dŵr gan y gall yr afonydd fod yn beryglus.  Mae’r dŵr yn aml yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gyflym.  Mae’r tir gerllaw’r rhaeadrau yn serth, yn arw ac yn llithrig hefyd.  Cadwch at y llwybrau er mwyn osgoi erydu diangen.

Sut i gyrraedd:

Cymerwch y B4242 o Lyn Nedd i Bontneddfechan. Trowch i'r chwith i gyfeiriad Ystradfellte am 2 km ac yna trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd hon am 1 km arall i gyrraedd y Maes Parcio.
Pontneddfechan yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 908 105
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Mannau eraill i fynd i mewnCoed Y Rhaeadr

Cyfleusterau:

Parking

Cyswllt:

Llanymddyfri Office

0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Mae Nedd Fechan a'i glannau'n gynefin o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyma le pwysig am fywyd gwyllt. Mae dros 600 o wahanol blanhigion wedi cael eu canfod yma, gan gynnwys casgliadau o fwsogl, rhedyn a chennau. Gwyliwch am y Trochwyr ar y cerrig o gwmpas Pont Melin-Fach.

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol