Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coed y Brenin

Am Coed y Brenin

Cymerwch gofal rhew ac eira ar y Llwybrau. Canolfan ymwelwyr ar agor.

Mae fersiynau Braille o’r pecyn cerdded ar gael a gallwch eu cael o’r Ganolfan Ymwelwyr.

Cwrs rhaffau uchel Go- Ape, yn dod i Goed y Brenin Pasg 2010 - gweler y cyswllt ar y dde o'r dudalen ar gyfer y DVD hyrwyddol - gellir archebu yn awr

Mae Coed y Brenin yn gartref i rywfaint o’r beicio mynydd gorau yn y DU, gyda llwybrau technegol wedi’u cyfeirbwyntio a llwybr teulu sydd newydd agor, i gyd ger y Ganolfan Ymwelwyr Newydd yn Nolgellau. Hefyd mae nifer o lwybrau cerdded i deuluoedd a phobl o bob gallu, dau lwybr rhedeg, ardal chwarae renciog odidog, man llogi beiciau a chaffi gyda golygfeydd gwych gwerth eu gweld! Gellir cael manylion llawn o’r Ganolfan Ymwelwyr, 01341 440742, sydd ar agor bob dydd o 1000 tan 1600. Mae Coed-y-Brenin yn ne Parc Cenedlaethol Eryri ger Dolgellau, yn cwmpasu ardal o ryw 9,000 erw o gwmpas cymoedd yr afonydd Mawddach, Eden, Gain a Wen. I’r gorllewin mae’r mynyddoedd Rhinog garw, i’r dwyrain mae’r Rhobell Fawr anghysbell ac i’r de mae’r Cader Idris godidog.

Pam na wnewch chi wylio fideo’r canolfan ymwelwyr er mwyn cael blas o beth sydd yn eich disgwyl yng Nghoed y Brenin.

Sut i gyrraedd:

Dolgellau yw'r dref neu'r pentref agosaf.

I’r dwyrain o’r A470, 8 milltir i’r gogledd o Ddolgellau, ychydig i ogledd Ganllwyd, i’r de o Drawsfynydd. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown.

Cyfeirif Grid yr OS: SH 725 272
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cychwynnwch eich ymweliad o:

Hermon
Glasdir
Ty'n-y-Groes
Pandy
Dolgefeiliau
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin
Tyddyn Gwladys

Beth sydd ymlaen a Coed y Brenin

Mawrth

View all events

Cyfleusterau:

ParkingToiletsParking ChargeInformationVisitor CentreRefreshmentsForest Shop

Gweithgareddau:

WalkingCyclingPicnicView PointHorse RidingArboretumEducationalFishingOrienteeringPlay AreaBarbecue
walking

Mynediad agored, llwybrau cerdded wedi’u cyfeirbwyntio a milltiroedd o hawliau ffordd cyhoeddus.

cycling

Mynediad agored ar heolydd coedwig, 7 llwybr wedi’u cyfeirbwyntio a llwybrau march.

horse riding

Mynediad agored ar heolydd coedwig, a llwybrau march.

Cyswllt:

Graeme Stringer
Rhodiwr Hamdden

e-bost: graeme.stringer@forestry.gsi.gov.uk