Am Hiraethog
Mae’r goedwig hon i’r de-orllewin o Ruthun, ac mae’n ymestyn dros 6000 hectar (15000 erw). Er ei bod yn goedwig fasnachol mae yma ddigon o le i chi fwynhau gwahanol weithgareddau a’r tawelwch pur. Dyma un o noddfeydd olaf y Wiwer Goch. Mae’n ardal eang o goed conifferaidd. Ceir yma lawer mwy o rywogaethau nag sy’n arferol mewn coedwigoedd o’r fath, yn enwedig Sbriws Norwy, Pinwydd a Llarwydd. Mae adeiledd y goedwig yr un mor amrywiol, ac yn cynnwys mannau clir lle buwyd yn torri coed yn ogystal â chlystyrau o goed sbriws a phinwydd a blannwyd dros ddeng mlynedd a thrigain yn ôl.
Sut i fynd yno:
Ruthin yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Dilynwch y B5105 o Ruthun. Dilynwch y B5105 neu’r B4501 o Gerrigydrudion.
Cyfeirif Grid yr OS: SJ000530
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Lleoedd i fynd:Hiraethog
AlwenClocaenog
Lleoedd eraill i ymweld â hwy yn yr ardal hon
Gweithgareddau:






![]() |
Mynediad agored i farchogwyr. |
Cyswllt:
Mike Whitley
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: mike.whitley@forestry.gsi.gov.uk
