Mae Nercwys yn goedwig gonwydd a blannwyd drwy gydol y 1950au hwyr a’r 1960au cynnar. Bu cwympiadau mewn rhannau o’r ardal a bu ailblannu ac mae yma amrywiaeth o rywogaethau conwydd ar draws yr ardal. Mae’r ardal yn gymharol wastad ac mae rhwydwaith dda o ffyrdd a llwybrau reidio yn hybu mynediad ar droed, ar farch neu ar feic drwy’r goedwig gyfan.
Sut i gyrraedd:
Yr Wyddgrug yw'r dref neu'r pentref agosaf.
O’r A494 i’r gorllewin o’r Wyddgrug ym mhentref Gwernymynydd, dilynwch Ffordd Glyndwr (ger tafarn Yr Enfys) ac ewch tua’r de. Yn y groesffordd cyntaf ewch yn syth ymlaen i Ffordd Cae Newydd. Mae’r ffordd yma yn eich arwain i’r cornel gogledd- dwyrain o’r goedwig ac arwydd o lechen ‘Coed Derw’r Mileniwm’. Ewch i’r dde fan yma ac mae’r maes parcio tua 150m ar y dde.
--------------- Mae’r goedwig yn dawel ac yn cael ei mwynhau gan gerddwyr, beicwyr a marchogion, gan ei bod yn rhydd o drafnidiaeth a da byw. Mae’n cynnwys claddfa o’r Oes Efydd, sy’n Henebyn Rhestredig. Hefyd hen ffermdai, adeiladau mwyngloddio a gweithfeydd chwarel a llyn bychan, Llyn Ochyn. Mae hefyd yn cynnwys coed y Mileniwm a blannwyd gan Gymuned Nercwys.
A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.