Gwydyr
Mae Coedwig Gwydyr yn ymestyn ar draws y bryniau ar lethrau dwyreiniol Eryri. Mae rhagfuriau coediog uchel yn codi'n serth o borfeydd gwastad Dyffryn Conwy, yn amgylchynu Betws-y-Coed, gan greu cefndir dramatig i dref Llanrwst a Chastell Gwydyr gerllaw. Saif y coedydd hyn ar drothwy golygfeydd enwog o lennyrch, pwll a chreigiau sydd yn gyfarwydd i genedlaethau o ymwelwyr sydd wedi cerdded llwybrau'r coed a physgota dyfroedd gloywon Conwy, Llugwy, Lledr a Machno. Uwchben y dyffryn ac y tu hwnt cwyd ucheldir helaeth, tonniog o gnyciau coediog, llynnoedd a phorfeydd yn ymestyn at grib ysgythrog Clogwyn-yr-Eira uwchben Llyn Crafnant, ac amlinell drechol Moel Siabod. Mae'r goedwig yn hawdd ei chyrraedd ar hyd hen lwybrau'r mwyngloddwyr, llwybrau beicio a theithiau cerdded coedwig â hanes hir. Nodwedd yr ardal rhwng 1850 a 1919 oedd mwyngloddio am blwm a sinc. Mae etifeddiaeth hen beiriandai, tomennydd gwastraff a chronfeydd dwr yn brithio tirwedd y goedwig heddiw ac adferwyd nifer o'r mwyngloddion pwysicaf yn rhannol er mwyn eu gwneud yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr. Bellach mae Coedwig Gwydyr yn ymestyn ar draws mwy na 7,250 ha, gan gynnwys 4,900 ha o goetiroedd cynhyrchiol. Mae Coedwig Gwydyr wedi dod yn gyfarwydd i filoedd o ymwelwyr sydd yn cerdded y llwybrau, astudio'r bywyd gwyllt, beicio, dringo, pysgota, cyfeiriadu neu yn syml mwynhau tawelwch y coetiroedd tragwyddol hyn.
Sut i gyrraedd:
Betws-Y-Coed yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Ffordd fach i'r Dwyrain oddi ar yr A470 yn Llanrwst.
Gwahanol fynedfeydd o'r A5 rhwng Capel Curig a Betws-y-Coed.
Cyfeirif Grid yr OS: SH794611
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Llyn Crafnant Pentre Du Eglwys Fair Gwydyr Uchaf Modurdy Betws y Coed Cae'n y Coed Maes parcio Cloddfa Hafna Ty'n Llwyn Llyn y Sarnau Bryn Engan Pont y Pair Bwthyn Nant Llyn Geirionydd