Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Pont y Pair

Am Pont y Pair

Pont y Pair

Coedwig o gewri a phorth i nifer o lwybrau 
Fe blannwyd y Ffynidwydd Douglas anferth o amgylch Betws y Coed fel coed ifanc yn y 1920au a bellach maent yn pwyso dros 10 tunnell yr un.

Medrwch gerdded o faes parcio Pont y Pair i edrych ar y coed enfawr ysblennydd ar eu gorau drwy ddilyn y llwybr troed a'r llwybrau estyllod rhwydd ar hyd glannau afon Llugwy.

Archwiliwch y dirwedd hynafol ac amrywiol yn y cyffiniau ar dri llwybr (gydag arwyddion) Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n cychwyn o’r pen yma i Fetws y Coed. Maent yn mynd â chi drwy lechweddau coediog, heibio i fwyngloddiau, llynnoedd, dolydd, clogwyni a nentydd.

I ddod o hyd i fan cychwyn y llwybrau dilynwch y ffordd darmac, gan fynd tua'r gorllewin (troi eich cefn ar Fetws y Coed) am tua 150m, yna cymerwch y ffordd darmac gyntaf ar y dde am 180m hyd at dro siarp. Ceir arwyddion ar y llwybrau o'r fan yma.

Sut i gyrraedd:

Cyfarwyddiadau:
Mae’r pedwar llwybr yn cychwyn o faes parcio’r Cyngor ym Mhont y Pair, Betws y Coed, sydd yr ochr arall i’r bont gul yng nghanol y dref, ar gyffordd y B5106 a ffordd yr A5 Betws y Coed - Capel Curig.
Cyfeirnod Grid yr OS: SH 795 566
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Betws-y-Coed yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SH 795 566
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cyfleusterau:

ToiletsParking Charge

Gweithgareddau:

Picnic
Walking Cyrau
Pen yr Allt
Llyn Parc
Educational Holwch yn swyddfa Coedwig Llanrwst.

Cyswllt:

Gareth Jones

0300 068 0300
e-bost: gareth.g.jones@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Pen-yr-Allt Cyrau Llyn Parc

Tudalennau cysylltiedig