Hafod
Mae ystâd Johnes yn yr Hafod yn enwog am ei waith arloesol wrth blannu coedwigoedd yr ucheldir a dylunio tirwedd yn ystod y blynyddoedd 1780-1813. Cydnabyddir ef yn hanesyddol fel y lluniwr coedwigoedd mwy gweledigaethol, llwyddiannus ac uchelgeisiol yng Nghymru. Dyluniwyd yr ystâd yn yr arddull 'Pictiwrésg' a ddaeth yn gyrchfan hanfodol i ymwelwyr wrth deithio o gwmpas Cymru wrth chwilio am 'Natur Gwyllt'. Mae'r plasdy wedi diflannu erbyn hyn ac mae'r Hafod o fewn coedwig weithredol. Mae'r perchennog, y Comisiwn Coedwigaeth, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth yr Hafod, â'i nôd ar gadw ac adfer y dirwedd hanesyddol, diogelu ei gynefinoedd pwysig, a rhoi mynediad a mwynhad i gerddwyr gan fwynhau llwybrau Johnes. Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi cwblhau ail-adeiladu Pont yr Alpau ac 1.6 km o Daith Gerdded y Foneddiges. Wrth i'r gwaith adfer fynd yn ei flaen, mae'r ddwy daith gerdded a fanylir ar dudalennau ar wahân ar y wê yn ei gwneud yn bosibl i'r ymwelwyr gael blas ar dirwedd ddramatig ac amrywiol yr Hafod.
yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS:
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Maes Parcio'r Hafod