Am Caio
Fe fydd y llwybrau a'r safle picnic yng Nghaio ar gae o ddydd Mawrth 28 o Fay 2013 am tua wythnos oherwydd gwaith cynnal a chadw ar y maes parcio
Coedwig Caeo - yng ngwlad y tywysogion
Croeso i Goedwig Caeo, coetir sy’n ymestyn i’r ucheldir uwchben pentref Caio. Cadwch lygad am befrwydd Norwy, ffynidwydd Douglas a llarwydd wrth i chi gerdded o amgylch y llethrau isaf. Mae llus, grug a bysedd y cŵn yn tyfu oddi tanynt.
Drwy gydol hanes yr oesoedd canol, roedd Tywysogion y Deheubarth yn ceisio lloches ar eu hystadau yng Nghaeo ar adegau o wrthdaro â Choron Lloegr. Yr ardal hon oedd cadarnle’r tywysogion brodorol ac felly mae ei chysylltiadau brenhinol yn gyfoethog.
Mae gennych tair taith gerdded i ddewis ohonynt o’r fan yma.
Sut i gyrraedd:
Caio yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Wedi’i leoli 8 milltir i’r Gogledd Orllewin o Lanymddyfri. Cymeryd yr A482 o Lanwrda. Troi i’r dde ar ôl 8 milltir i gyfeiriad Caio. Mynd yn eich blaen drwy‘r pentref gan dilyn yr arwyddion coedwigaeth.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 679 405
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Gweithgareddau:


![]() |
Mynediad agored i farchogwyr ond cadwch bant o'r safle picnic. |
Cyswllt:
Llanymddyfri Office
0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri

