Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Brechfa

Am Brechfa

Mae hanes hir i goedwig enwog Brechfa, sydd heddiw o dan reolaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru am gynhyrchu pren ac am hamdden. Yn y canol oesoedd, 'roedd yn goedwig o goed derw ac ynn yn bennaf, ac yn Helfa Frenhinol bwysig, tra tan yr 20fed Ganrif, cynaeafwyd pren o'r goedwig i ddiwallu anghenion diwydiannol De Cymru. Yn ogystal â chwarae ei rhan yn y chwyldro diwydiannol, cymerwyd pren o'r goedwig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gynhyrchu 'naphtha' ar gyfer ffrwydron. Ym 1919, daeth y Comisiwn Coedwigaeth yn reolwr y goedwig, gan greu'r statws presennol fel coedwig aml-bwrpas am gynhyrchu pren, hamdden a chadwraeth bywyd gwyllt.

Erbyn heddiw mae coedwig Brechfa'n gorchuddio rhyw 6500 hectar.Mae llwybrau cerdded a llwybrau beic mynydd ar gael i chi eu mwynhau, ac mae croeso i rai sy'n marchogaeth, ar ffyrdd y goedwig.

Sut i gyrraedd:

Abergorlech, Brechfa, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanbedr-Pont Steffen, a Gaerfyrddin yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.

Mae'r A482 (Llanbedr-Pont-Steffan i Llanymddyfri), yr A40 a'r A485 (Llanbedr-Pont-Steffan i Gaerfyrddin) yn amgylchynu'r goedwig. Ceir nifer fawr o ffyrdd sydd yn arwain at Goedwig Brechfa, ac mae Abergorlech a Brechfa'n bentrefi bach yn ymyl Coedwig Brechfa ar ffordd y B4310. Dilynwch yr A482 rhwng Llanbedr-Pont-Steffan a Llanymddyfri hyd at y tro am Lansawel (B4302). Wedi cyrraedd Llansawel, dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.

Cyfeirif Grid yr OS: SN585340
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cychwynnwch eich ymweliad o:

Safle Picnic Byrgwm
Llety'r Cipar
Safle Picnic Abergorlech

Cyfleusterau:

ParkingEasy Access

Gweithgareddau:

WalkingCyclingHorse RidingArboretumBarbecuePicnicPlay Area
walking

Llwybrau cyfeirbwyntiedig yn Abergorlech a Byrgwm. Hefyd mynediad agored ar hyd ffyrdd y goedwig.:Sylwch ar yr arwyddion lleol os gwelwch yn dda.

cycling

Llwybrau beicio coch yn Abergorlech a mynediad agored ar hyd ffyrdd y goedwig. Sylwch ar yr arwyddion lleol os gwelwch yn dda.

horse riding

Bwlch i ddadbacio yn Abernant a Llety'r Cipar. Postyn i glymu ceffylau yn Abernant. Mynediad agored ar hyd ffyrdd y goedwig.

Cyswllt:

Llanymddyfri Office

0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk