Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Pen Arthur

Am Pen Arthur

Mae'r coetir hyn yn gymysgedd deniadol o gonifferau a choed llydanddail brodorol. O'r fan hon gallwch ddilyn y llwybr o'ch blaen i ymuno a ffyrdd y goedwig yr holl ffordd i fyny (3.2km/2 filltir un ffordd gyda dringfa a 270m/900 troedfedd, yn ogystal a chylch bychan 0 400m/1/4m o ben draw'r ffordd - caniatewch 3 awr) at lecyn gwylio trawiadol gyda chylch bychan drwy rostir. Ar un ochr ceir golygfeydd gwych o Ddyffryn Tywi, ac ar yr ochr arall o'r Mynydd Du.

 

 

Sut i gyrraedd:

Llanymddyfri neu Llangadog yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Sut i gyrraedd yno:

Yn anffodus does dim cludiant cyhoeddus yn agos i’r goedwig yma. Cymerwch y ffordd fynydd golygfaol mewn cerbyd o Langadog i Frynaman (A4069). Mae’r fynedfa ar y dde tua 2 filltir tu allan i Langadog.

Cyfeirif Grid yr OS: SN717255
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/


Cyswllt:

Llanymddyfri Office

0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Mae Coedwig Pen Arthur yn gartref i unig sawna coetir cyhoeddus Cymru. Wedi’i leoli mewn llecyn neilltuedig a darluniaidd, mae yna le i 8 o bobl yn y cyfleuster. Gofynnir i’r Grwpiau sydd â diddordeb mewn defnyddio’r cyfleuster Unigryw yma i gysylltu a swyddfa ardal Llanymddyfri ar 0300 068 0300 a siarad ag aelod o'r tim weinyddol . Y pris am 2011 yw £50 y grŵp.

Ffurflenni ar gyfer bwcio'r Sawna

Sut i Fwynhau Eich Sawna

Asesiad Risg Sawna

Holiadur Iechyd Sawna (pdf 27kb 1 tud)

 


Tudalennau cysylltiedig