Am Coed Coesau Whips
Mae'r coed yn cynnig teithiau cerdded byr a hawdd o ddewis o ddau faes parcio. Bydd y sawl sydd am fentro'n bellach i mewn i'r coed yn cael eu gwobrywo gyda golygfeydd hardd o Gaerdydd a dyffryn Draethen.
Sut i gyrraedd:
Rhydri a Caerffili yw'r trefi neu'r pentrefi agosaf.
O ganol tref Caerffili dilynwch Ffordd Van tuag at Rhydri. Ewch ymlaen dros Gomin Rhydri am tua 1 filltir i'r maes parcio ger tafarn y Maenllwyd.
O Gyffordd 28 yr M4, dilynwch yr A468 i Gaerffili gan droi i'r chwith tuag at Draethen. Teithiwch drwy'r Draethen i Dafarn y Maenllwyd a'r maes parcio gerllaw. Trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i bentrefi Rhydri a Draethen.
Cyfeirif Grid yr OS: ST 202 867
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Maes Parcio Llwyn CelynMaes Parcio Tafarn Maenllwyd


