Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Blaen-Y-Glyn

Am Blaen-Y-Glyn

Mae Blaen-y-Glyn a'i raeadrau yn rhan uchaf coedwig Tal-y-Bont. Mae olion hen bentref cronfa ddwr i'w gweld yma hefyd.

Mae meysydd parcio Glyn Uchaf ac Isaf a’r goedwig o amgylch ar gau oherwydd gweithrediadau coedwigaeth. Dylai’r gwaith fod wedi cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mai.

Gellir defnyddio'r maes parcio ger cronfa ddŵr Talybont.

 Mae dargyfeiriadau wedi cael eu gosod ar Lwybr Taf yn Nhalybont a Thaf Fechan oherwydd gweithrediadau coedwigaeth. Dilynwch yr arwyddion dargyfeirio os gwelwch yn dda.

 

Sut i gyrraedd:

Tal-Y-Bont yw'r dref neu'r pentref agosaf.

Trowch oddi ar yr A40 yn dilyn yr arwyddion am Dal-y-Bont rhwng Aberhonddu a Bwlch. Wedi cyrraedd Tal-y-Bont dilynwch yr arwyddion am gronfa ddwr Tal-y-Bont trwy bentref Aberclydach, gan barhau nes gweld arwyddion y Comisiwn Coedwigaeth.

Cyfeirif Grid yr OS: SO 056178
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Cychwynnwch eich ymweliad o:

Maes Parcio Blaen-y-Glyn Uchaf
Maes Parcio Blaen-y-Glyn Isaf

Cyfleusterau:

InformationParking

Cyswllt:

Llanymddyfri Office

0300 068 0300
e-bost: llanymddyfri

Beth sydd o ddiddordeb

phone App
Derbyniwch App CC Cymru yn ddi-dâl

Cymerwch ofal wrth yr ardaloedd gerllaw’r dŵr gan gall llynnoedd ac afonydd fod yn beryglus. Mae’r dŵr gan amlaf yn oer, dwfn ac yn llifo’n gyflym. Cadwch ar y llwybrau i osgoi erydiad diangen.

Mae cynllun gwirfoddolwyr wardeiniaid maes parcio yn gweithredu yn yr ardal yma, gellir cael gwybodaeth lleol oddi wrthynt - maent yn gwisgo siacedi melyn gyda logos PCBB, CC a heddlu Powys arnynt.


Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol