Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Coedwig Hafren

Am Coedwig Hafren

Daw enw'r Goedwig o Afon Hafren sydd yn tarddu mewn mignen ddofn, 800 metr y tu allan i'w ffin, yn uchel uwchben ar lethrau Pumlumon. Bron ar unwaith mae'n cychwn ar ei thaith hir i Fôr Hafren, yn mynd yn gyntaf drwy goetiroedd o binwydd a sbriws. Mae'n bosibl cerdded i Darddiad Hafren o Goedwig Hafren. Mae Taith Hafren, taith gerdded glan afon hiraf Prydain yn dechrau wrth y tarddiad. Mae tref farchnad ddeniadol Llanidloes gerllaw yn fan cychwyn ar gyfer Coedwig Hafren, Llyn Clywedog a llawer o atyniadau eraill i ymwlewyr.

Bydd Coedwig Hafren ar gau o dan ddeddfwriaeth CRoW ar gyfer Rali GB Cymru o 8 Tachwedd tan 12 Tachwedd.

 

Sut i fynd yno:

Llanidloes yw'r dref neu'r pentref agosaf.

O ganol tref Llanidloes trowch i wynebu Neuadd y Farchnad o Ffordd y Dderwen Fawr a dilynwch Ffordd y Bont Fer yn union gyferbyn. Dilynwch y ffordd gul i'r Hen Neuadd. Mae safle picnic Rhiwbenwch 6 milltir i'r gorllewin o Lanidloes. Mae modd ei gyrraedd hefyd o ben gogleddol Llyn Clywedog ar y ffyrdd bach.

Cyfeirif Grid yr OS: SN857868
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/

Lleoedd i fynd:Coedwig Hafren

Coedwig Hafren

Lleoedd eraill i ymweld â hwy yn yr ardal hon

YR AFON HAFREN YNG NGHOEDWIG HAFREN

Cyfleusterau:

ToiletsInformationParkingEasy Access

Gweithgareddau:

WalkingCyclingHorse RidingHeritage
horse riding Mynediad agored i farchogwyr i Goedwig Hafren

Cyswllt:

Jim Ralph
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: jim.ralph@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Llwybr Rhaeadrau Pob Gallu . Llwybr Tarddiad yr Hafren. Llwybr Rhaeadrau Blaenhafren. Llwybr Hafren Torri Gwddf. Safleoedd Picnic Glan Afon. Toiledau – Pasg i Hydref.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.

Bydd Coedwig Hafren ar gau o dan ddeddfwriaeth CRoW ar gyfer Rali GB Cymru o 8 Tachwedd tan 12 Tachwedd.


Tudalennau cysylltiedig