Am Coedwig Hafren
Daw enw'r Goedwig o Afon Hafren sydd yn tarddu mewn mignen ddofn, 800 metr y tu allan i'w ffin, yn uchel uwchben ar lethrau Pumlumon. Bron ar unwaith mae'n cychwn ar ei thaith hir i Fôr Hafren, yn mynd yn gyntaf drwy goetiroedd o binwydd a sbriws. Mae'n bosibl cerdded i Darddiad Hafren o Goedwig Hafren. Mae Taith Hafren, taith gerdded glan afon hiraf Prydain yn dechrau wrth y tarddiad. Mae tref farchnad ddeniadol Llanidloes gerllaw yn fan cychwyn ar gyfer Coedwig Hafren, Llyn Clywedog a llawer o atyniadau eraill i ymwlewyr. Mae'r Ganolfan Ymwelwyr (01686 412605, e-bost llantic@powys.gov.uk) ar agor o Ebrill tan ddiwedd mis Medi. SYLWER AR NEWIDIADAU I’R LLWYBRAU OS GWELWCH YN DDA: Fe fydd Llwybr Blaen Hafren ar gau hyd nes ceir rhybudd pellach er mwyn gwneud gwaith o gynnal a chadw; mae Llwybr Tarddiad yr Hafren wedi cael ei ail gyfeirio. Cymerwch sylw o’r arwyddion. .
Bydd Coedwig Hafren ar gau o dan ddeddfwriaeth CRoW ar gyfer Rali GB Cymru o 8 Tachwedd tan 12 Tachwedd.
Sut i gyrraedd:
Llanidloes yw'r dref neu'r pentref agosaf.
O ganol tref Llanidloes trowch i wynebu Neuadd y Farchnad o Ffordd y Dderwen Fawr a dilynwch Ffordd y Bont Fer yn union gyferbyn. Dilynwch y ffordd gul i'r Hen Neuadd. Mae safle picnic Rhiwbenwch 6 milltir i'r gorllewin o Lanidloes. Mae modd ei gyrraedd hefyd o ben gogleddol Llyn Clywedog ar y ffyrdd bach.
Cyfeirif Grid yr OS: SN857868
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
Cychwynnwch eich ymweliad o:
Safle Picnic Rhydybenwch
Cyfleusterau:




Gweithgareddau:



![]() |
Mynediad agored i farchogwyr i Goedwig Hafren |
Cyswllt:
Jim Ralph
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: jim.ralph@forestry.gsi.gov.uk
