Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Safle Picnic Rhydybenwch

Am Safle Picnic Rhydybenwch

Saif y maes parcio ar safle ffermdy o'r enw Rhydybenwch. Bellach mae safle picnic Rhydybenwch yn borth i nifer o deithiau cerdded coedwig dynodedig. Saif y safle picnic yn ymyl dôl blodau gwyllt sydd ar ei gorau yn hwyr ym mis Gorffennaf. Mae modd cyrraedd Tarddiad Hafren ac un o gopaon Pumlumon (Pen Pumlumon Arwystil 741 metr, 2431 o droedfeddi) o'r maes parcio ar hyd y llwybr dynodedig.

 

 

Sut i gyrraedd:

O ganol tref Llanidloes trowch i wynebu Neuadd y Farchnad o Ffordd y Dderwen Fawr a dilynwch Ffordd y Bont Fer yn union gyferbyn. Dilynwch y ffordd gul i'r Hen Neuadd. Mae safle picnic Rhydybenwch 6 milltir i'r gorllewin o Lanidloes. Mae modd ei gyrraedd hefyd o ben gogleddol Llyn Clywedog ar y ffyrdd bach.
Llanidloes yw'r dref neu'r pentref agosaf.
Cyfeirif Grid yr OS: SN 857 869
I gael gwybodaeth am gludiant cyhoeddus ewch i http://www.cymraeg.traveline-cymru.info/
SAFLE PICNIC RHYDYBENWCH

Cyfleusterau:

ToiletsInformationParkingEasy Access

Gweithgareddau:

CyclingHeritage
Walking Llwybr y Rhaeadrau
Llwybr Tarddle Hafren
HorseRiding.gif Mynediad agored i farchogwyr yng Nghoedwig Hafren

Cyswllt:

Jim Ralph
Rheolwr Ardal Lleol
0300 068 0300
e-bost: jim.ralph@forestry.gsi.gov.uk

Beth sydd o ddiddordeb

Mae'r gwaith wedi gorffen ar lwybr cylchog godidog newydd sydd yn dilyn hynt afonydd yn y goedwig.

A fyddech mor garedig a gwneud yn siŵr fod yr ardal rydych am ymweld â ddim ar gau oherwydd gwaith ar ei hanner neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal , drwy ymweld â wefan CCW fel y diffiniwyd gan Ddeddf Hawliau Tramwy Cefn Gwlad 2000.


Tudalennau cysylltiedig